beibl.net



Lawrlwythwch beibl.net ar eich ffôn:

  1. Cliciwch y botwm ‘lawrlwytho’ i gadw ffeil beibl.net symudol ar eich cyfrifiadur

  2. Ffeil ZIP fydd y ffeil sy’n cael ei lawrlwytho. Bydd angen datgywasgu’r ffeil hon, ac fe gewch ffolder beibl.net gyda ffeiliau JAD a JAR ynddi.

    Y ffeil JAR ydy’r ffeil i’w llwytho ar eich ffôn.  (Ffeil ddisgrifydd lai ydy’r ffeil JAD – mae ei hangen ar rai llwythwyr cymwysiadau cyn gallu gosod y ffeil JAR ar y ffôn.)

  3. Cysylltwch eich ffôn i’r cyfrifiadur, a trosglwyddo’r ffeil JAR i’r ffôn


Dolen uniongyrchol i’r ffeil ZIP
(os nad ydy’r botwm Lawrlwytho yn gweithio)

Lawrlwythwch i'ch ffôn YMA - http://wap.beibl.net/


Fydd beibl.net symudol yn gweithio ar fy ffôn i?
Bydd, os ydy hi’n ffôn symudol sy’n gallu rhedeg cymhwysion Java (J2ME MIDP 1.0 a MIDP 2.0)
Mae rhai ffonau symudol yn methu dangos y codau canlynol:

Mae rhai ffonau symudol Nokia yn cyfyngu maint y cymhwysiadau i 128KB, sydd yn llai na maint ffeil beibl.net symudol.  I ddarganfod beth ydy’r cyfyngiad ar faint  JAR eich ffôn Nokia, ewch i wefan Forum Nokia, dewis eich ffôn, ac edrych ar "Max JAR Size" yn y tabl ar y dudalen sy’n agor.

Oes saethau i’r chwith a’r dde ar eich ffôn?
I fynd i adnod arbennig mae’r sgrîn Ewch i yn gofyn fod gan y ffôn saethau i’r chwith ac i’r dde.  Mae’r rhain ar y mwyafrif o ffonau Java, ond ar rai ffonau Nokia rhad does ond saethau i fyny ac i lawr.  Os nad oes saethau i’r chwith a’r dde ar eich ffôn, gellir defnyddio’r  bysellau * a # yn eu lle.  Hefyd gellir newid y llyfr, y bennod a’r adnod drwy bwyso’r bysellau canlynol:

Os oes gennych gwestiynau pellach am arsefydlu’r cymhwysiad ar eich ffôn ewch i  Go Bible Forums (Fforwm Saesneg)


Cafodd y cymhwysiad Go Bible hwn ei adeiladu ar 2009-08-31 gan David Haslam, Arweinydd prosiect Go Bible i CrossWire Go Bible.

Syllwr Beibl Rhad ac am ddim i ffonau symudol Java (J2ME MIDP 1.0 a MIDP 2.0)
ydy Go Bible.

Gwybodaeth bella ch am Go Bible - http://gobible.jolon.org/about.html
Gwefan Go Bible  - http://gobible.jolon.org/welcome.html
Gwefan CrossWire - http://www.crosswire.org/index.jsp