Mae Efengyl Mathew yn llawn o ddyfyniadau o'r Hen Destament (Ysgrifau Sanctaidd yr Iddewon). Mae'r efengyl yn dangos mai Iesu ydy'r Meseia oedden nhw’n disgwyl amdano. Mae'n adrodd hanes bywyd Iesu o'i eni i'w atgyfodiad, ac yn rhoi sylw helaeth i ddysgeidiaeth Iesu.
MATHEW 18
Y pwysica yn Nheyrnas yr Un nefol
(Marc 9:33-37,42-48; Luc 9:46-48; 17:1-2)
1 Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?” 2 Galwodd blentyn bach ato, a'i osod yn y canol o'u blaenau, 3 ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. 4 Felly, pwy bynnag sy'n gweld ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol. 5 Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi. 6 Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi'i rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr. 7 “Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio! 8 Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol! 9 Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.Stori am ddafad aeth ar goll
(Luc 15:3-7)
10 “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd. Ref ’ 12 “Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll? 13 Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll! 14 Yr un fath, dydy'ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o'r rhai bach yma gael eu colli.Delio gyda phechod yn yr eglwys
(Luc 17:3)
15 “Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad ag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch. 16 Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, am fod ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’Croes 17 Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, yna dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain! 18 “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi'u rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi'u caniatáu yn y nefoedd. 19 “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, bydd fy Nhad yn y nefoedd yn ei roi i chi. 20 Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”