1 “Credwch chi fi, lleidr ydy'r un sy'n dringo i mewn i gorlan y defaid heb fynd drwy'r giât.
2 Mae'r bugail sy'n gofalu am y defaid yn mynd i mewn drwy'r giât.
3 Mae'r un sy'n gwylio'r gorlan dros nos yn agor y giât iddo, ac mae ei ddefaid ei hun yn nabod ei lais. Mae'n galw pob un o'i ddefaid wrth eu henwau, ac yn eu harwain nhw allan.
4 Ar ôl iddo fynd â nhw i gyd allan, mae'n cerdded o'u blaenau nhw, ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais.
5 Fyddan nhw byth yn dilyn rhywun dieithr. Dŷn nhw ddim yn nabod lleisiau pobl ddieithr, a byddan nhw'n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.”
6 Defnyddiodd Iesu'r stori yna fel darlun, ond doedden nhw ddim yn deall yr ystyr.
Iesu, y giât i'r defaid
7 Felly dwedodd Iesu eto, “Credwch chi fi – fi ydy'r giât i'r defaid fynd drwyddi.
8 Lladron yn dwyn oedd pob un ddaeth o mlaen i. Wnaeth y defaid ddim gwrando arnyn nhw.
9 Fi ydy'r giât. Bydd y rhai sy'n mynd i mewn trwof fi yn saff. Byddan nhw'n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa.
10 Mae'r lleidr yn dod gyda'r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau.
Iesu, y bugail da
11 “Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.
12 Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun.) Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.
13 Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae'n edrych ar ôl y defaid, a dydy e'n poeni dim amdanyn nhw go iawn.
14 “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i –
15 yn union fel mae'r Tad yn fy nabod i a dw i'n nabod y Tad. Dw i'n fodlon marw dros y defaid.
16 Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail.
17 Mae fy Nhad yn fy ngharu i am fy mod yn mynd i farw'n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn.
18 Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy'n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i'r gallu i'w roi a'r gallu i'w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i'w wneud.”
19 Roedd beth roedd yn ei ddweud yn achosi rhaniadau ymhlith yr Iddewon eto.
20 Roedd llawer ohonyn nhw'n dweud, “Mae cythraul ynddo! Mae'n hurt bost! Pam ddylen ni wrando arno?”
21 Ond roedd pobl eraill yn dweud, “Dydy e ddim yn siarad fel rhywun wedi'i feddiannu gan gythraul. Ydy cythraul yn gallu rhoi golwg i bobl ddall?”
Yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod Iesu
22 Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi'n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem.
23 Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon. Ref24 Dyma'r arweinwyr Iddewig yn casglu o'i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti'n mynd i'n cadw ni'n disgwyl? Dwed wrthon ni'n blaen os mai ti ydy'r Meseia.”
25 “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi'n gwrthod credu. Mae'r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl.
26 Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi.
27 Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i'n eu nabod nhw.
28 Dw i'n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i.
29 Fy Nhad sydd wedi'u rhoi nhw i mi, ac mae e'n fwy na phawb a phopeth. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad.
30 Dw i a'r Tad yn un.”
31 Unwaith eto dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i'w labyddio'n farw,
32 ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i'n gwneud lot fawr o bethau da – gwyrthiau'r Tad. Am ba un o'r rhain dych chi'n fy llabyddio i?”
33 “Dŷn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da,” atebodd yr arweinwyr Iddewig, “ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.”
34 Ond atebodd Iesu nhw, “Mae'n dweud yn eich ysgrifau sanctaidd chi, ‘Dwedais, “Duwiau ydych chi.”’Croes35 Dych chi ddim yn gallu diystyru'r ysgrifau sanctaidd! Felly os oedd yr arweinwyr ddwedodd Duw hynny wrthyn nhw yn ‛dduwiau‛
36 sut dych chi'n gallu dweud mod i'n cablu dim ond am fy mod i wedi dweud ‘Fi ydy mab Duw’? Y Tad ddewisodd fi a'm hanfon i i'r byd.
37 Os dw i ddim yn gwneud gwaith fy Nhad peidiwch credu ynof fi.
38 Ond os dw i yn gwneud yr un fath â'm Tad, credwch yn yr hyn dw i'n ei wneud er eich bod chi ddim yn credu ynof fi. Wedyn dewch i wybod a deall fod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.”
39 Dyma nhw'n ceisio'i ddal unwaith eto, ond llwyddodd i ddianc o'u gafael nhw.
40 Aeth Iesu yn ôl ar draws afon Iorddonen eto i'r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd yno
41 a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw'n dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn yma yn wir.”
42 A daeth llawer o bobl yno i gredu yn Iesu.
Mae efengyl Ioan yn wahanol i’r tair efengyl arall. Mae’n cyfeirio at saith o bethau sy’n arwyddion clir mai Iesu ydy Mab Duw.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy ydy’r awdur? Yn draddodiadol mae’r efengyl hon yn cael ei chysylltu gyda Ioan, brawd Iago, un o’r deuddeg disgybl. Mae rhai’n meddwl ei fod yn amhosib i ddyn o gefndir Ioan ysgrifennu efengyl mor gyfoethog. Maen nhw’n awgrymu fod Ioan wedi defnyddio ysgrifennydd, neu fod disgybl iddo o’r un enw wedi ysgrifennu’r efengyl ar sail atgofion yr apostol. Ond mae yna dystiolaeth yn y llyfr mai Ioan yr apostol ydy’r awdur: • Tystiolaeth llygad-dyst sydd yma. •...