Mae Luc yn pwysleisio fod Duw eisiau achub pobl o bob cenedl. Mae’n pwysleisio perthynas Iesu gyda phobl yr ymylon – pobl dlawd ac anghenus.
LUC 10
Iesu'n anfon y saith deg dau allan
1 Ar ôl hyn dyma Iesu'n penodi saith deg dau Ref o rai eraill a'u hanfon o'i flaen bob yn ddau i'r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw. 2 Meddai wrthyn nhw, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd. 3 Ewch! Dw i'n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid. 4 Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd. 5 “Pan ewch i mewn i gartref rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio'r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall. 6 Os oes rhywun yna sy'n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi. 7 Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i'r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog. 8 “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. 9 Ewch ati i iacháu y rhai sy'n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod Ref i deyrnasu.’ 10 Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i'w strydoedd a dweud, 11 ‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’ 12 Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno!Gwae'r trefi sy'n gwrthod troi at Dduw
(Mathew 11:20-24)
13 “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, drwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. 14 Bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi! 15 A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll!Croes 16 “Mae pwy bynnag sy'n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy'n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.” 17 Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw'n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.” 18 Atebodd Iesu, “Gwelais Satan yn syrthio fel mellten o'r awyr! 19 Dw i wedi rhoi'r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi! 20 Ond peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi'u hysgrifennu yn y nefoedd.”Iesu yn diolch i Dduw, ei dad
(Mathew 11:25-27; 13:16,17)
21 Bryd hynny roedd Iesu'n fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai, “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i'r rhai sy'n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy'n dy blesio di. 22 “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.” 23 Pan oedden nhw ar eu pennau'u hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chi'n cael y fath fraint o weld beth sy'n digwydd! 24 Dw i'n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.”