1 Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus, Ref brenin Persia, cafodd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) neges arall. Neges am rywbeth fyddai wir yn digwydd – amser o ryfela a dioddef. Ac roedd Daniel wedi deall y neges a'r weledigaeth gafodd.
2 Ar y pryd, roeddwn i, Daniel, wedi bod yn galaru am dair wythnos lawn.
3 Rôn i'n bwyta bwyd plaen – dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd.
4 Yna ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf Ref rôn i'n sefyll ar lan afon fawr Tigris.
5 Gwelais ddyn yn sefyll o mlaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol.Croes6 Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi'i sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau.
7 Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio.
8 Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Rôn i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Rôn i'n hollol wan.
9 Pan glywais e'n dechrau siarad dyma fi'n llewygu. Rôn i'n fflat ar fy wyneb ar lawr.
10 Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, a'm codi ar fy nwylo a'm gliniau.
11 “Daniel,” meddai, “rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw i'n mynd i'w ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fi'n sefyll ar fy nhraed, ond rôn i'n dal i grynu.
12 Yna dwedodd, “Daniel, paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed dy weddi ers y diwrnod cyntaf i ti blygu o'i flaen i geisio deall. A dw i wedi dod o achos dy weddi.
13 Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd Ref teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun.
14 Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.”
15 Tra oedd yn siarad roeddwn i'n edrych i lawr, ac yn methu dweud gair.
16 Yna dyma un oedd yn edrych fel person dynol yn cyffwrdd fy ngwefusau, a dyma fi'n dechrau siarad. “Syr,” meddwn i wrtho, “mae beth dw i wedi'i weld yn ormod i'w gymryd. Dw i'n teimlo'n hollol wan.
17 Meistr, sut alla i sydd ddim ond gwas, siarad â rhywun fel ti? Does gen i ddim nerth ar ôl. Dw i prin yn gallu anadlu!”
18 Yna dyma'r un oedd yn edrych fel person dynol yn fy nghyffwrdd i eto, a rhoi nerth i mi.
19 “Paid bod ag ofn,” meddai. “Ti'n ddyn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr! Bydd yn ddewr go iawn!” Wrth iddo siarad roeddwn i'n teimlo fy hun yn cryfhau. A dyma fi'n dweud, “Gelli siarad nawr, syr. Rwyt ti wedi gwneud i mi deimlo'n well.”
20 Yna meddai, “Wyt ti'n gwybod pam dw i wedi dod atat ti? Yn fuan iawn rhaid i mi fynd yn ôl i ymladd yn erbyn arweinydd Persia. Ond ar ôl i mi wneud hynny, bydd arweinydd y Groegiaid yn dod.
21 Ond yn gyntaf, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wedi'i ysgrifennu mewn llyfr sy'n ddibynadwy. Does neb i'm helpu i yn eu herbyn nhw ond Michael, eich arweinydd chi.
Mae llyfr Daniel yn son am gyfnod y gaethglud ym Mabilon – o tua 605 hyd 538 C.C. Mae’r llyfr Daniel yn rhannu’n ddau. Mae’r hanner cyntaf yn son am ffyddlondeb Duw a’i ofal am y rhai sy’n credu ynddo, hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Roedd llwyddiant Daniel yn Babilon yn rhyfeddol – roedd yn dal un o brif swyddi’r Ymerodraeth am dros 60 mlynedd, ond wnaeth o erioed gyfaddawdu ei ffydd. (Roedd Daniel yn hen ŵr yn ei 80au pan gafodd ei daflu i ffau’r llewod.)
Yn ail hanner y llyfr cawn weledigaethau proffwydol Daniel, sy’n edrych ymlaen dros hanes y dyfodol. Gwelodd genhedloedd yn brwydro yn erbyn ei gilydd, a pobl Dduw yn cael eu gwasgu ac yn dioddef yng nghanol y cwbl, hyd nes y byddai Duw ei hun yn eu hachub o’u trafferthion. Gwelodd hefyd y byddai pobloedd y byd i gyd ryw ddydd yn plygu i addoli “mab y dyn” fyddai’n dod ar gymylau’r awyr. Wrth gwrs, 500 mlynedd yn ddiweddarach roedd Iesu yn honni mai fo oedd y “mab y dyn” yma. (Cyn hyn roedd pobl Israel wedi tueddu i gyfyngu Duw i’w bocs eu hunain – eu Duw nhw oedd o, i’w addoli yn y deml yn Jerwsalem. Ond ers dyddiau Abraham, roedd bwriadau Duw yn cofleidio’r byd i gyd.)