Salm 104
Cân o fawl i'r Crëwr
1 Fy enaid, bendithia'r
ARGLWYDD!
O
ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr!
Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas.
2 Mae mantell o oleuni wedi ei lapio amdanat.
Ti wnaeth ledu'r awyr fel pabell uwch ein pennau.
3 Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth,
a gwneud dy gerbyd o'r cymylau
i deithio ar adenydd y gwynt.
4 Ti sy'n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti,
a fflamau o dân yn weision.
5 Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini,
er mwyn iddi beidio gwegian byth.
6 Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg;
roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.
7 Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi,
a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd,
8 — cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoedd
ac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo.
9 Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi,
i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.
10 Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,
a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.
11 Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed,
a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched.
12 Mae adar yn nythu wrth eu hymyl
ac yn canu yng nghanol y dail.
13 Ti sy'n dyfrio'r mynyddoedd o dy balas uchel.
Ti'n llenwi'r ddaear â ffrwythau.
14 Ti sy'n rhoi glaswellt i'r gwartheg;
planhigion i bobl eu tyfu
iddyn nhw gael bwyd o'r tir —
15 gwin i godi calon,
olew i roi sglein ar eu hwynebau,
a bara i'w cadw nhw'n fyw.
16 Mae'r coed anferth yn cael digon i'w yfed —
y cedrwydd blannodd yr
ARGLWYDD yn Libanus
17 ble mae'r adar yn nythu,
a'r coed pinwydd ble mae'r storc yn cartrefu.
18 Mae'r mynyddoedd uchel yn gynefin i'r geifr gwyllt,
a'r clogwyni yn lloches i'r brochod.
19 Ti wnaeth y lleuad i nodi'r tymhorau;
a'r haul, sy'n gwybod pryd i fachlud.
20 Ti sy'n dod â'r tywyllwch iddi nosi,
pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan.
21 Mae'r llewod yn rhuo am ysglyfaeth
ac yn gofyn i Dduw am eu bwyd.
22 Wedyn, pan mae'r haul yn codi,
maen nhw'n mynd i'w ffeuau i orffwys.
23 A dyna pryd mae pobl yn deffro,
a mynd allan i weithio nes iddi nosi.
24 O
ARGLWYDD, rwyt wedi creu
cymaint o wahanol bethau!
Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth.
Mae'r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!
25 Draw acw mae'r môr mawr sy'n lledu i bob cyfeiriad,
a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo —
creaduriaid bach a mawr.
26 Mae'r llongau yn teithio arno,
a'r morfil Ref a greaist i chwarae ynddo.
27 Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat ti
i roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
28 Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta.
Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni.
29 Pan wyt ti'n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw'n dychryn.
Pan wyt ti'n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw,
maen nhw'n marw ac yn mynd yn ôl i'r pridd.
30 Ond pan wyt ti'n anadlu, maen nhw'n cael eu creu,
ac mae'r tir yn cael ei adfywio.
31 Boed i ysblander yr
ARGLWYDD gael ei weld am byth!
Boed i'r
ARGLWYDD fwynhau y cwbl a wnaeth!
32 Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu!
Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu!
33 Dw i'n mynd i ganu i'r
ARGLWYDD tra bydda i byw!
Moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i.
34 Boed i'm myfyrdod ei blesio.
Dw i'n mynd i fod yn llawen yn yr
ARGLWYDD.
35 Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o'r tir,
ac i bobl ddrwg beidio â bod ddim mwy.
Fy enaid, bendithia'r
ARGLWYDD!
Haleliwia!
I'r pen