Roedd Eseia yn proffwydo o tua 740 i 700 C.C. Roedd yn amlwg yn dod o deulu dylanwadol, gan ei fod yn mynd yn ôl ac ymlaen i balas y brenin yn Jerwsalem. Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd mewn gweledigaeth ryfeddol pan oedd yn y deml (Eseia 6). Roedd yn cyhoeddi barn Duw ar Jerwsalem a Jwda am eu pechod, a daeth ei broffwydoliaethau yn wir ganrif yn ddiweddarach pan wnaeth byddin Babilon goncro’r wlad a dinistrio Jerwsalem. Ond mae yma hefyd broffwydoliaethau rhyfeddol o obaith. Mae rhai pobl yn galw Eseia “y bumed efengyl” gan fod rhai adrannau o’r broffwydoliaeth yn amlwg wedi eu cyflawni yng ngenedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu saith canrif yn ddiweddarach. Mae rhan olaf y llyfr yn broffwydoliaethau am Dduw yn adfer Israel, yn achub ei bobl, ac yn sefydlu teyrnas dragwyddol.
ESEIA 11
Heddwch o'r diwedd
1 Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse, Ref
a changen ffrwythlon yn tyfu o'i wreiddiau.
ARGLWYDD yn gorffwys arno:ysbryd doethineb rhyfeddol,
ysbryd strategaeth sicr,
ysbryd defosiwn a pharch at yr
ARGLWYDD.3 Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i'r
ARGLWYDD:fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf,
nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.
4 Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg
ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir.
Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaear
a bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl.
5 Bydd cyfiawnder a ffyddlondeb
fel belt am ei ganol.
6 Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen,Croes
a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr.
Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd,
a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.
7 Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd,
a'u rhai ifanc yn cydorwedd;
a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.
8 Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra
a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.
nac yn dinistrio dim
ar y mynydd sydd wedi'i gysegru i mi.
Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,
bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr
ARGLWYDD.Duw yn rhyddhau ei bobl
10 Bryd hynny,bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyll
yn arwydd clir i'r bobloedd –
bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor,
a bydd ei le yn ysblennydd.
11 Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria – a hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Ref Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd.12 Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd,
ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel.
Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaru
o bedwar ban byd.
13 Yna bydd cenfigen Effraim Ref yn darfod
a bydd yr elyniaeth rhyngddi a Jwda yn dod i ben.
Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda,
a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.
14 Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin,
ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd.
Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw,
a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw.
ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft.Bydd yn codi ei law dros afon Ewffrates
ac yn anfon gwynt ffyrnig i'w hollti'n saith sychnant,
er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu'r traed.
16 Felly bydd priffordd ar gyfer gweddill ei bobl
sydd wedi'u gadael yn Asyria,
fel yr un oedd i bobl Israel
pan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft.