Mae efengyl Ioan yn wahanol i’r tair efengyl arall. Mae’n cyfeirio at saith o bethau sy’n arwyddion clir mai Iesu ydy Mab Duw.
IOAN 11
Marwolaeth Lasarus
1 Roedd dyn o'r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a'i chwaer Martha. 2 (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda'i gwallt, a'i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.) 3 Dyma'r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di'n sâl.” 4 Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.” 5 Roedd Iesu'n hoff iawn o Martha a'i chwaer a Lasarus. 6 Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall. 7 Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.” 8 “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd di gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?” 9 Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy rhywun sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddo olau'r haul. 10 Ond mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.” 11 Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i'n mynd yno i'w ddeffro.” 12 “Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.” 13 Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol. 14 Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw, 15 ac er eich mwyn chi dw i'n falch fy mod i ddim yno. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.” 16 Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd hefyd, i farw gydag e!”Iesu'n cysuro'r chwiorydd
17 Pan gyrhaeddodd Iesu, cafodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod. 18 Roedd Bethania llai na dwy filltir o Jerwsalem, 19 ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd. 20 Pan glywodd Martha fod Iesu'n dod, aeth allan i'w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ. 21 “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. 22 Ond er hynny, dw i'n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti'n ei ofyn ganddo.” 23 Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.” 24 Atebodd Martha, “Dw i'n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Ref 25 Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; 26 a bydd y rhai sy'n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti'n credu hyn?” 27 “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i'n credu mai ti ydy'r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i'r byd.” 28 Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae'r Athro yma, ac mae'n gofyn amdanat ti.” 29 Pan glywodd Mair hyn, dyma hi'n codi ar frys i fynd ato. 30 (Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal lle roedd Martha wedi'i gyfarfod.) 31 Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru. 32 Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” 33 Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig. 34 Gofynnodd, “Ble dych chi wedi'i gladdu?” “Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw. 35 Roedd Iesu yn ei ddagrau. 36 “Edrychwch gymaint roedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno. 37 Ond roedd rhai yn dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”Iesu'n codi Lasarus
38 Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi'i gosod dros geg yr ogof.) 39 “Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud, “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi'i gladdu ers pedwar diwrnod.” 40 Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y cei di weld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?” 41 Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. 42 Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.” 43 Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Lasarus, tyrd allan!” 44 A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi'u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd a'i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu.Y cynllwyn i ladd Iesu
(Mathew 26:1-5; Marc 14:1-2; Luc 22:1,2)
45 Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y bobl oedd yn ymweld â Mair, ac wedi gweld beth wnaeth Iesu. 46 Ond aeth rhai at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi'i wneud. 47 A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol. 48 Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio'ch teml a'n gwlad ni.” 49 Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl! 50 Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?” 51 (Wnaeth e ddim dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl. 52 A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a'u gwneud nhw'n un.) 53 O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedden nhw'n cynllwynio i ladd Iesu. 54 Felly wnaeth Iesu ddim mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea ar ôl hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o'r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda'i ddisgyblion. 55 Pan oedd y Pasg Iddewig yn agosáu, roedd llawer o bobl yn mynd i Jerwsalem i fynd drwy'r ddefod o ymolchi eu hunain yn seremonïol i baratoi ar gyfer y Pasg ei hun. 56 Roedden nhw'n edrych am Iesu drwy'r adeg, ac yn sefyllian yng nghwrt y deml a holi ei gilydd, “Beth dych chi'n feddwl? Ddaw e ddim i'r Ŵyl, siawns!” 57 (Roedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi gorchymyn fod unrhyw un oedd yn gwybod lle roedd Iesu i ddweud wrthyn nhw, er mwyn iddo gael ei arestio.)