Salm 116
Rhywun wedi ei achub rhag marw yn moli Duw
1 Dw i wir yn caru'r
ARGLWYDD
am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.
2 Mae e'n troi i wrando arna i
a dw i'n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.
3 Roedd rhaffau marwolaeth wedi eu rhwymo amdana i;
roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.
Ro'n i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus!
4 A dyma fi'n galw ar yr
ARGLWYDD,
“O
ARGLWYDD, plîs achub fi!”
5 Mae'r
ARGLWYDD mor hael a charedig;
ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.
6 Mae'r
ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;
achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.
7 Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto!
Mae'r
ARGLWYDD wedi achub fy ngham!
8 Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,
cymryd y dagrau i ffwrdd,
a'm cadw i rhag baglu.
9 Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r
ARGLWYDD
ar dir y byw.
10 Roeddwn i'n credu ynddo pan ddywedais,
“Dw i'n diodde yn ofnadwy,”
11 ond yna dweud mewn panig,
“Alla i ddim trystio unrhyw un.”
12 Sut alla i dalu nôl i'r
ARGLWYDD
am fod mor dda tuag ata i?
13 Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,
a dw i am alw ar enw'r
ARGLWYDD.
14 Dw i am gadw fy addewidion i'r
ARGLWYDD
o flaen ei bobl.
15 Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlon
yn werthfawr yng ngolwg yr
ARGLWYDD.
16 Plîs
ARGLWYDD,
dw i wir yn un o dy weision
ac yn blentyn i dy forwyn.
Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.
17 Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i ti
ac yn galw ar enw yr
ARGLWYDD.
18 Dw i am gadw fy addewidion i'r
ARGLWYDD
o flaen y bobl sy'n ei addoli
19 yn ei deml yn Jerwsalem.
Haleliwia!
I'r pen