1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti.
2 Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill.
3 Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.” Ref’
4 Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.)
5 Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi'u cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno
6 dyma Abram yn teithio drwy'r wlad ac yn cyrraedd derwen More, oedd yn lle addoli yn Sichem. (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
7 Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” Felly cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato.
8 Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de, a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD.
9 Yna teithiodd Abram yn ei flaen bob yn dipyn i gyfeiriad y Negef yn y de.
Abram a Sarai yn mynd i'r Aifft
10 Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i'r Aifft i grwydro yno.
11 Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti'n ddynes hardd iawn.
12 Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw'n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di.
13 Dwed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw'n garedig ata i wedyn am eu bod nhw'n dy hoffi di, a bydda i'n saff.”
14 Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn.
15 Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm.
16 Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a chaethferched, a chamelod iddo.
17 Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas.
18 Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi?
19 Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi'n wraig i mi fy hun? Felly dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!”
20 Rhoddodd y Pharo orchymyn i'w filwyr yrru Abram a'i wraig a phopeth oedd ganddo, allan o'r wlad.
Yn Genesis mae Duw yn creu y byd yn dda, ond mae’r bobl gafodd eu creu ganddo yn anufudd iddo. Maen nhw’n gwneud drwg ac yn mynd o ddrwg i waeth. Yna cawn hanes enwog Arch Noa, a dechrau newydd gyda Duw yn galw dyn o’r enw Abram (newidiodd Duw ei enw i Abraham yn nes ymlaen). Cawn hanesion Duw ar waith ym mywydau Abraham, ei fab Isaac, ei ŵyr Jacob, ac ym mywyd un o feibion Jacob, sef Joseff. Mae’r llyfr yn cloi gyda Joseff yn brif weinidog yr Aifft, a’i dad, ei frodyr a’u teuluoedd wedi symud i fyw yno.
Yn Genesis mae Duw yn creu y byd yn dda, ond mae’r bobl gafodd eu creu ganddo yn anufudd iddo. Maen nhw’n gwneud drwg ac yn mynd o ddrwg i waeth. Yna cawn hanes enwog Arch Noa, a dechrau newydd gyda Duw yn galw dyn o’r enw Abram (newidiodd Duw ei enw i Abraham yn nes ymlaen). Cawn hanesion Duw ar waith ym mywydau Abraham, ei fab Isaac, ei ŵyr Jacob, ac ym mywyd un o feibion Jacob, sef Joseff. Mae’r llyfr yn cloi gyda Joseff yn brif weinidog yr Aifft, a’i dad, ei frodyr a’u teuluoedd wedi symud i fyw yno.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy?
Mae’n anodd ymchwilio i hanes llyfrau’r Hen Destament oherwydd bod y defnydd mor hen, ond yn ôl traddodiadau Iddewig a Christnogol Moses ydy awdur 5 llyfr cyntaf y Beibl. Ystyr y gair Genesis yn Hebraeg ydy Yn y dechreuad ac mae defnyddio geiriau cyntaf llyfr fel teitl yn hen arfer mewn llyfrau Hebraeg cynnar. Yn y Groeg ystyr y teitl ydy geni, achau neu hanes cychwyniad. Genesis ydy llyfr cyntaf y Beibl ac mae’n cyflwyno hanes dechrau’r byd, dechrau...