Mae Luc yn pwysleisio fod Duw eisiau achub pobl o bob cenedl. Mae’n pwysleisio perthynas Iesu gyda phobl yr ymylon – pobl dlawd ac anghenus.
LUC 12
Rhybuddion ac anogaeth
1 Yn y cyfamser, roedd tyrfa yn ymgasglu – miloedd o bobl yn ymwthio a sathru ar draed ei gilydd. Dyma Iesu'n siarad â'i ddisgyblion yn gyntaf, ac meddai wrthyn nhw: “Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, sef y ffaith eu bod nhw mor ddauwynebog. 2 Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. 3 Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai.Pwy i'w ofni
(Mathew 10:28-31)
4 “Ffrindiau, peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd eich corff chi, ond ddim mwy na hynny. 5 Gwrandwch, Duw ydy'r un i'w ofni – mae'r hawl ganddo fe i'ch taflu chi i uffern ar ôl lladd y corff! Ie, ofnwch Dduw! 6 Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu pump ohonyn nhw am newid mân! Ond mae Duw'n gofalu am bob un aderyn bach. 7 Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd.Arddel neu wadu Iesu
(Mathew 10:32-33; 12:32; 10:19-20)
8 “Dych chi'n gallu bod yn siŵr o hyn: pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda i, Mab y Dyn, yn dweud yn agored o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi. 9 Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi, bydda i'n gwadu o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi. 10 A bydd pawb sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu'r Ysbryd Glân. 11 “Pan fyddwch ar brawf yn y synagogau, neu o flaen y llywodraethwyr a'r awdurdodau, peidiwch poeni am eich amddiffyniad, beth i'w ddweud. 12 Bydd yr Ysbryd Glân yn dangos i chi beth i'w ddweud yn y fan a'r lle.”Stori am ffŵl cyfoethog
13 Yna dyma rywun o ganol y dyrfa yn galw arno, “Athro, mae fy mrawd yn gwrthod rhannu'r eiddo mae dad wedi'i adael i ni. Dwed wrtho am ei rannu.” 14 Atebodd Iesu, “Ffrind, pwy wnaeth fi yn farnwr neu'n ganolwr i sortio rhyw broblem felly rhyngoch chi'ch dau?” 15 Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.” 16 A dwedodd stori wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn berchen tir, a chafodd gnwd arbennig o dda un cynhaeaf. 17 ‘Does gen i ddim digon o le i storio'r cwbl,’ meddai. ‘Beth wna i?’ 18 “‘Dw i'n gwybod! Tynnu'r hen ysguboriau i lawr, ac adeiladau rhai mwy yn eu lle! Bydd gen i ddigon o le i storio popeth wedyn. 19 Yna bydda i'n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i'n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i'n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’ 20 “Ond dyma Duw yn dweud wrtho, ‘Y ffŵl dwl! Heno ydy'r noson rwyt ti'n mynd i farw. Pwy fydd yn cael y cwbl rwyt ti wedi'i gasglu i ti dy hun?’ 21 “Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw'u hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.”Peidiwch poeni
(Mathew 6:25-34)
22 Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w wisgo. 23 Mae mwy i fywyd na bwyd a dillad. 24 Meddyliwch am gigfrain: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nac ysgubor – ac eto mae Duw'n eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar! 25 Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach Ref drwy boeni! 26 Os allwch chi ddim gwneud peth bach fel yna, beth ydy'r pwynt o boeni am bopeth arall? 27 “Meddyliwch sut mae blodau'n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.Croes 28 Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi? 29 Felly peidiwch treulio'ch bywyd yn poeni am fwyd a diod! 30 Pobl sydd ddim yn credu sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi. 31 Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i deyrnasiad Duw, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd.Trysor nefol
(Mathew 6:19-21)
32 “Fy mhraidd bach i, peidiwch bod ofn. Mae Duw yn benderfynol o rannu ei deyrnas â chi. 33 Gwerthwch eich eiddo a rhoi'r arian i'r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy'n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha. 34 Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.Bod yn barod bob amser
(Mathew 24:45-51)
35 “Byddwch yn barod bob amser; a chadwch eich lampau yn olau, 36 fel petaech yn disgwyl i'r meistr gyrraedd adre o wledd briodas. Pan fydd yn cyrraedd ac yn curo'r drws, byddwch yn gallu agor y drws yn syth. 37 Bydd y gweision hynny sy'n effro ac yn disgwyl am y meistr yn cael eu gwobrwyo – wir i chi, bydd y meistr yn mynd ati i weini arnyn nhw, a byddan nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta! 38 Falle y bydd hi'n oriau mân y bore pan fydd yn cyrraedd, ond bydd y gweision sy'n effro yn cael eu gwobrwyo. 39 “Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd roedd y lleidr yn dod, byddai wedi'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ! 40 Rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg, achos bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!” 41 Gofynnodd Pedr, “Ydy'r stori yma i ni yn unig neu i bawb?” 42 Atebodd yr Arglwydd, “Pwy ydy'r rheolwr doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi'i benodi i fod yn gyfrifol am weddill y staff, i'w bwydo'n rheolaidd. 43 Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo. 44 Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd! 45 Ond beth petai'r gwas yn meddwl iddo'i hun, ‘Mae'r meistr yn hir iawn yn cyrraedd,’ ac yn mynd ati i gam-drin y gweision a'r morynion eraill, ac i bartïo ac yfed a meddwi? 46 Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai sydd ddim yn credu. 47 “Bydd y gwas sy'n gwybod yn iawn beth mae'r meistr eisiau, ond ddim yn mynd ati i wneud hynny, yn cael ei gosbi'n llym. 48 Ond os dydy'r gwas ddim yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, bydd y gosb yn ysgafn. Mae disgwyl llawer gan y sawl oedd wedi derbyn llawer; ac mae gofyn llawer mwy yn ôl gan y sawl oedd yn gyfrifol am lawer.Dim heddwch ond rhwygiadau
(Mathew 10:34-36)
49 “Dw i wedi dod i gynnau tân ar y ddaear, a byddwn i'n hoffi petai'r gwaith eisoes wedi'i wneud! 50 Ond mae gen i brofiad dychrynllyd i fynd drwyddo, a dw i'n teimlo pwysau dychrynllyd nes bydd y cwbl drosodd! 51 Ydych chi'n meddwl mod i wedi dod i roi heddwch i'r byd? Na, wir i chi! Dim heddwch ond rhwygiadau. 52 Bydd teuluoedd yn cael eu rhwygo, tri yn erbyn a dau o blaid, neu fel arall. 53 Bydd tad yn erbyn ei fab a mab yn erbyn ei dad; mam yn erbyn ei merch a merch yn erbyn ei mam; mam-yng-nghyfraith yn erbyn merch-yng-nghyfraith a merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith!”Deall yr amserau
(Mathew 16:2-3; 5:25-26)
54 Yna dyma Iesu'n troi at y dyrfa a dweud: “Os gwelwch chi gwmwl yn codi yn y gorllewin, ‘Mae'n mynd i lawio,’ meddech chi ar unwaith, ac mae hi yn glawio. 55 Neu pan fydd gwynt y de yn chwythu, dych chi'n dweud, ‘Mae'n mynd i fod yn boeth,’ a dych chi'n iawn. 56 Am ragrithwyr! Dych chi'n gwybod sut i ddehongli arwyddion y tywydd. Pam allwch chi ddim dehongli beth sy'n digwydd nawr? 57 “Pam allwch chi ddim penderfynu beth sy'n iawn? 58 Os ydy rhywun yn mynd â ti i'r llys, gwna dy orau i gymodi cyn cyrraedd yno. Ydy'n well gen ti gael dy lusgo o flaen y barnwr, a'r barnwr yn gorchymyn i swyddog dy daflu di yn y carchar? 59 Wir i ti, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.”