Mae efengyl Ioan yn wahanol i’r tair efengyl arall. Mae’n cyfeirio at saith o bethau sy’n arwyddion clir mai Iesu ydy Mab Duw.
IOAN 13
Iesu'n golchi traed ei ddisgyblion
1 Erbyn hyn roedd hi bron yn Ŵyl y Pasg. Roedd Iesu'n gwybod fod yr amser wedi dod iddo adael y byd a mynd at y Tad. Roedd wedi caru y rhai oedd yn perthyn iddo, ac yn awr dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad. 2 Roedden nhw wrthi'n bwyta swper. Roedd y diafol eisoes wedi rhoi'r syniad i Jwdas, mab Simon Iscariot, i fradychu Iesu. 3 Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw. 4 Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol. 5 Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a'u sychu gyda'r tywel oedd am ei ganol. 6 Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, ti'n golchi fy nhraed i?” 7 Atebodd Iesu, “Ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.” 8 Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!” “Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “ti ddim yn perthyn i mi.” 9 “Os felly, Arglwydd,” meddai Simon Pedr, “golcha fy nwylo a'm pen i hefyd, dim jest fy nhraed i!” 10 Atebodd Iesu, “Does dim rhaid i rywun sydd wedi cael bath ymolchi eto, dim ond golchi ei draed, am fod gweddill ei gorff yn lân. A dych chi'n lân – pawb ond un ohonoch chi.” 11 (Roedd yn gwybod pwy oedd yn mynd i'w fradychu; a dyna pam y dwedodd e fod un ohonyn nhw ddim yn lân.) 12 Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi'i wneud i chi?” meddai. 13 “Dych chi'n fy ngalw i yn ‛Athro‛ neu'n ‛Arglwydd‛, ac mae hynny'n iawn, am mai dyna ydw i. 14 Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi'ch traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd. 15 Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i'ch gilydd. 16 Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na'r un wnaeth ei anfon e. 17 Dych chi'n gwybod y pethau yma, ond eu gwneud sy'n dod â bendith.Iesu'n dweud y byddai'n cael ei fradychu
(Mathew 26:20-25; Marc 14:17-21; Luc 22:21-23)
18 “Dw i ddim yn siarad amdanoch chi i gyd. Dw i'n nabod y rhai dw i wedi'u dewis yn dda. Ond mae'n rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ddweud ddod yn wir: ‘Mae'r un fu'n bwyta gyda mi wedi troi yn fy erbyn i.’Croes 19 Dw i'n dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, ac wedyn pan fydd yn digwydd byddwch yn credu mai fi ydy e. 20 Credwch chi fi, mae rhywun sy'n croesawu negesydd sydd wedi'i anfon gen i, yn rhoi croeso i mi. Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Tad sydd wedi fy anfon i.” 21 Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu'n amlwg wedi cynhyrfu drwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.” 22 Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy roedd e'n sôn. 23 Roedd y disgybl oedd Iesu'n ei garu yn eistedd agosaf ato. 24 Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu. 25 Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy wyt ti'n sôn?” 26 Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi'i drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot. 27 Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.” 28 Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu'n ei olygu. 29 Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd. 30 Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi'n nos.Iesu'n dweud y byddai Pedr yn ei wadu
(Mathew 26:31-35; Marc 14:27-31; Luc 22:31-34)
31 Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu,“Mae'n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu,
ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi.
32 Os ydy Duw wedi'i anrhydeddu ynof fi,
bydd Duw yn fy anrhydeddu i ynddo'i hun,
ac yn gwneud hynny ar unwaith.
33 “Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd.Croes 34 “Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi. 35 Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.” 36 “Ble rwyt ti'n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo. Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.” 37 “Pam alla i ddim dod rwan?” meddai Pedr, “dw i'n fodlon marw drosot ti!” 38 Atebodd Iesu, “Wnei di wir farw drosof fi? Cred di fi, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i!”