Roedd Hosea yn proffwydo yn Israel (teyrnas y gogledd) rhwng tua 750 a 722 C.C. Mae stormydd bywyd priodasol Hosea yn ddarlun o berthynas Duw gyda’i bobl Israel. Mae Duw yn dweud wrth Hosea am briodi putain o’r enw Gomer, ac mae’r berthynas rhwng y ddau yn siarad cyfrolau – dyn anrhydeddus, llawn cariad a’i wraig anffyddlon. Ar un pwynt mae Gomer yn mynd yn ôl i weithio fel putain, ond er hynny mae Hosea yn ei phrynu yn ôl iddo’i hun yn y farchnad.
Gwreiddyn problemau Israel oedd eu bod yn addoli eilunod (Mae Hosea’n defnyddio’r gair ‘godineb’ i ddisgrifio’r peth. Felly mae llyfr Hosea yn rhybuddio’r bobl am ganlyniadau bod yn anufudd iddo, ond hefyd yn cynnig bendith a gobaith os gwnân nhw droi cefn ar eu pechod. Mae’n ddarlun gwych o gariad rhyfeddol Duw at ei bobl anufudd. Dydy Duw ddim eisiau bod fel “meistr” ar ei bobl, mae eisiau bod fel “gŵr” sy’n dangos cariad a gofal amdanyn nhw.