Salm 145
Emyn o fawl
Cân o fawl. Salm Dafydd.
1 Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin,
a bendithio dy enw di am byth bythoedd!
2 Dw i eisiau dy ganmol di bob dydd
a dy foli di am byth bythoedd!
3 Mae'r
ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli!
Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni.
4 Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd,
ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.
5 Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd,
a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud.
6 Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud,
a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion.
7 Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di,
ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.
8 Mae'r
ARGLWYDD mor garedig a thrugarog;
mor amyneddgar ac anhygoel o hael!Croes
9 Mae'r
ARGLWYDD yn dda i bawb;
mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud.
10 Mae'r cwbl rwyt ti wedi ei greu yn dy foli di, O
ARGLWYDD!
Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!
11 Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad,
ac yn siarad am dy nerth;
12 er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud,
ac am ysblander dy deyrnasiad.
13 Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd,
ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau!
Mae'r
ARGLWYDD yn cadw ei air;
ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud. Ref
14 Mae'r
ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio,
ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.
15 Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti,
a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
16 Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael!
Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw.
17 Mae'r
ARGLWYDD yn gyfiawn bob amser,
ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.
18 Mae'r
ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno;
at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno.
19 Mae'n rhoi eu dymuniad i'r rhai sy'n ei barchu;
mae'n eu clywed nhw'n galw, ac yn eu hachub.
20 Mae'r
ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy'n ei garu,
ond bydd yn dinistrio'r rhai drwg i gyd.
21 Bydda i'n cyhoeddi fod yr
ARGLWYDD i'w foli,
a bydd pob creadur byw yn bendithio ei enw sanctaidd,
… am byth bythoedd!
I'r pen