1 Rywbryd wedyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad ag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi'n derbyn gwobr fawr.”
2 Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt os bydda i'n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus Ref fydd yn cael popeth sydd gen i!
3 Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni fydd yn etifeddu'r cwbl!”
4 Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.”
5 A dyma'r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i'r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di – yn gwbl amhosib i'w cyfri.”
6 Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.
7 Wedyn dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.”
8 Ond dyma Abram yn gofyn, “O Feistr, ARGLWYDD, sut alla i fod yn siŵr dy fod ti'n mynd i'w rhoi i mi?”
9 Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma – pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed – a hefyd turtur a cholomen ifanc.”
10 Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a yn gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner.
11 Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.
12 Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto.
13 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
14 Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi'u gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo.
15 (Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.)
16 Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy'r holl ddrwg mae'r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.”
17 Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng y darnau o'r anifeiliaid.
18 Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o afon yr Aifft i afon fawr Ewffrates.
19 Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid,
20 Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid,
21 Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.”
Yn Genesis mae Duw yn creu y byd yn dda, ond mae’r bobl gafodd eu creu ganddo yn anufudd iddo. Maen nhw’n gwneud drwg ac yn mynd o ddrwg i waeth. Yna cawn hanes enwog Arch Noa, a dechrau newydd gyda Duw yn galw dyn o’r enw Abram (newidiodd Duw ei enw i Abraham yn nes ymlaen). Cawn hanesion Duw ar waith ym mywydau Abraham, ei fab Isaac, ei ŵyr Jacob, ac ym mywyd un o feibion Jacob, sef Joseff. Mae’r llyfr yn cloi gyda Joseff yn brif weinidog yr Aifft, a’i dad, ei frodyr a’u teuluoedd wedi symud i fyw yno.
Yn Genesis mae Duw yn creu y byd yn dda, ond mae’r bobl gafodd eu creu ganddo yn anufudd iddo. Maen nhw’n gwneud drwg ac yn mynd o ddrwg i waeth. Yna cawn hanes enwog Arch Noa, a dechrau newydd gyda Duw yn galw dyn o’r enw Abram (newidiodd Duw ei enw i Abraham yn nes ymlaen). Cawn hanesion Duw ar waith ym mywydau Abraham, ei fab Isaac, ei ŵyr Jacob, ac ym mywyd un o feibion Jacob, sef Joseff. Mae’r llyfr yn cloi gyda Joseff yn brif weinidog yr Aifft, a’i dad, ei frodyr a’u teuluoedd wedi symud i fyw yno.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy?
Mae’n anodd ymchwilio i hanes llyfrau’r Hen Destament oherwydd bod y defnydd mor hen, ond yn ôl traddodiadau Iddewig a Christnogol Moses ydy awdur 5 llyfr cyntaf y Beibl. Ystyr y gair Genesis yn Hebraeg ydy Yn y dechreuad ac mae defnyddio geiriau cyntaf llyfr fel teitl yn hen arfer mewn llyfrau Hebraeg cynnar. Yn y Groeg ystyr y teitl ydy geni, achau neu hanes cychwyniad. Genesis ydy llyfr cyntaf y Beibl ac mae’n cyflwyno hanes dechrau’r byd, dechrau...