Salm 19
Y greadigaeth yn dangos ysblander Duw
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1 Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw,
a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
2 Mae'r neges yn mynd allan bob dydd;
mae i'w weld yn amlwg bob nos!
3 Does dim llais go iawn, na geiriau,
na dim i'w glywed yn llythrennol.
4 Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud;
a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd!
Cododd babell i'r haul yn yr awyr.
5 Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell;
neu athletwr yn frwd i redeg ras.
6 Mae'n codi ar y gorwel,
ac yn symud o un pen i'r llall.
Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
7 Mae dysgeidiaeth yr
ARGLWYDD yn berffaith —
mae'n rhoi bywyd newydd i mi!
Mae rheolau yr
ARGLWYDD yn glir
ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.
8 Mae cyngor yr
ARGLWYDD yn dangos beth sy'n iawn
ac yn gwneud y galon yn llawen.
Mae arweiniad yr
ARGLWYDD yn bur
ac yn ein goleuo ni.
9 Mae'r gorchymyn i barchu'r
ARGLWYDD yn glir
ac yn aros bob amser.
Mae dyfarniad yr
ARGLWYDD yn gywir —
mae e'n gwbl deg bob amser.
10 Mae'r pethau yma'n fwy gwerthfawr nag aur —
ie, llwythi o aur coeth!
Maen nhw'n felysach na'r mêl
sy'n diferu o'r diliau.
11 Ydyn, maen nhw'n rhoi goleuni i dy was;
ac mae gwobr fawr i'r rhai sy'n ufuddhau.
12 Ond pwy sy'n gweld ei feiau ei hun?
O, maddau i mi pan dw i'n pechu heb yn wybod,
13 a cadw fi rhag pechu'n fwriadol.
Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i.
Yna byddaf yn ddi-fai,
a dieuog o droseddu yn dy erbyn.
14 Gad i'r cwbl dw i'n ei ddweud a'i feddwl
dy blesio di,
O
ARGLWYDD, fy nghraig a'm hachubwr.
I'r pen