Mae’r llythyr hwn yn esbonio’r pethau mwyaf sylfaenol am y bywyd Crisgnogol, gyda’r prif bwyslais ar y gorchymyn i garu ein gilydd.
1 IOAN 2
1 Fy mhlant annwyl, dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn eich helpu chi i beidio pechu. Ond os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda'r Tad sy'n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy'n berffaith gyfiawn a da. 2 Fe ydy'r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau'r byd i gyd. 3 Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n ei nabod e ac yn perthyn iddo – drwy fod yn ufudd iddo. 4 Mae'r bobl hynny sy'n dweud, “Dw i'n ei nabod e,” ond ddim yn gwneud beth mae e'n ei ddweud yn dweud celwydd, a dŷn nhw ddim yn ffyddlon i'r gwir. 5 Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw'n ddweud, mae'n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn iddo: 6 rhaid i bwy bynnag sy'n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu'n byw. 7 Ffrindiau annwyl, dw i ddim yn sôn am ryw orchymyn newydd. Mae'n hen un! Dyma gafodd ei ddweud o'r dechrau cyntaf. Dyma'r hen orchymyn glywoch chi o'r dechrau.Croes 8 Ac eto mewn ffordd mae beth dw i'n ysgrifennu amdano yn newydd. Mae i'w weld ym mywyd Iesu Grist ac ynoch chithau hefyd. Achos mae'r tywyllwch yn diflannu ac mae'r golau go iawn wedi dechrau disgleirio. 9 Mae'r rhai sy'n dweud eu bod nhw'n credu'r gwir ond sy'n bod yn gas at frawd neu chwaer yn dal yn y tywyllwch go iawn. 10 Y rhai sy'n caru eu cyd-Gristnogion sy'n aros yn y golau, a does dim byd fydd yn gwneud iddyn nhw faglu. 11 Ond mae'r rheiny sy'n gas at Gristion arall yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw ar goll yn llwyr yn y tywyllwch. Does ganddyn nhw ddim syniad ble maen nhw'n mynd, am fod y tywyllwch yn eu gwneud nhw'n gwbl ddall.12 Dw i'n ysgrifennu atoch chi, fy mhlant annwyl
am fod eich pechodau chi wedi cael eu maddau
o achos beth wnaeth Iesu.
13 Dw i'n ysgrifennu atoch chi'r rhai hŷn,
am eich bod chi wedi dod i nabod yr Un
sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf.
Dw i'n ysgrifennu atoch chi sy'n ifanc
am eich bod chi wedi ennill y frwydr
yn erbyn yr Un drwg.
Dw i wedi ysgrifennu atoch chi blant,
am eich bod chi wedi dod i nabod y Tad.
14 Dw i wedi ysgrifennu atoch chi rai hŷn,
am eich bod chi wedi dod i nabod yr un
sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf.
Dw i wedi ysgrifennu atoch chi'r rhai ifanc
am eich bod chi'n gryf,
am fod neges Duw wedi dod i fyw o'ch mewn chi,
ac am eich bod chi wedi ennill y frwydr
yn erbyn yr un drwg.