1 Gadewch i ni sôn am y ffaith fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl, a sut fyddwn ni'n cael ein casglu ato.
2 Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy'n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy'n mynnu mai dyna mae'r Ysbryd yn ei ddweud. A pheidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy'n dweud mai dyna dŷn ni'n ei gredu.
3 Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i'r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg, sef yr un sydd wedi'i gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw.
4 Dyma elyn mawr Duw, yr un sy'n meddwl ei fod yn well na'r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‛dduw‛ arall sy'n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw.Croes5 Ydych chi ddim yn cofio mod i wedi dweud hyn i gyd pan oeddwn i gyda chi?
6 Dylech wybod, felly, am y grym sy'n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i'r golwg cyn i'r amser iawn gyrraedd.
7 Wrth gwrs, mae'r dylanwad dirgel sy'n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy'n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o'r neilltu.
8 Wedyn bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno!Croes Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda'r fath ysblander.
9 Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo'r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill.Croes10 Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo'r rhai sy'n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu'r gwir fyddai'n eu hachub nhw.
11 Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd.
12 Felly bydd pawb sy'n gwrthod credu'r gwir ac sydd wedi bod yn mwynhau gwneud drygioni yn cael eu cosbi.
Safwch yn gadarn
13 Ond mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi'ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy'r Ysbryd sy'n eich gwneud chi'n lân a thrwy i chi gredu'r gwir.
14 Galwodd Duw chi i rannu yn hyn i gyd wrth i ni gyhoeddi'r newyddion da, a byddwch yn cael rhannu ysblander ein Harglwydd Iesu Grist.
15 Felly, ffrindiau annwyl, arhoswch yn ffyddlon iddo, a daliwch eich gafael yn y cwbl wnaethon ni ei ddysgu i chi, ar lafar ac yn ein llythyr atoch chi.
16 Dw i'n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi'n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni),
17 yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi wneud a dweud beth sy'n dda.
Mae Paul yma eto yn dysgu’r bobl sut ddylen nhw baratoi eu hunain ar gyfer ailddyfodiad y Meseia.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy ydy’r awdur? Paul. Mae mwy o’i hanes yn “Pwy? Pryd? Pam?” – Rhufeiniaid. Mae rhai ysgolheigion yn gweld fod y llythyr yma yn fwy ffurfiol na’r llythyr cyntaf at y Thesaloniaid. Ond edrychwch ar adnod olaf y llythyr. Yn nyddiau Paul roedd pobl yn defnyddio amanuensis (ysgrifennydd) i ysgrifennu llythyrau drostyn nhw. Yma mae Paul yn ysgrifennu diwedd y llythyr yn ei lawysgrifen ei hun, er mwyn profi mai fo ydy’r awdur.