Yn Genesis mae Duw yn creu y byd yn dda, ond mae’r bobl gafodd eu creu ganddo yn anufudd iddo. Maen nhw’n gwneud drwg ac yn mynd o ddrwg i waeth. Yna cawn hanes enwog Arch Noa, a dechrau newydd gyda Duw yn galw dyn o’r enw Abram (newidiodd Duw ei enw i Abraham yn nes ymlaen). Cawn hanesion Duw ar waith ym mywydau Abraham, ei fab Isaac, ei ŵyr Jacob, ac ym mywyd un o feibion Jacob, sef Joseff. Mae’r llyfr yn cloi gyda Joseff yn brif weinidog yr Aifft, a’i dad, ei frodyr a’u teuluoedd wedi symud i fyw yno.
GENESIS 2
Duw yn gorffwys ar y seithfed diwrnod
1 Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo. 2 Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. 3 Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.Gardd Eden
4 Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu: Pan wnaeth Duw y bydysawd, 5 doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. 6 Ond roedd dŵr yn codi o'r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir. 7 Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o'r pridd. Wedyn chwythodd i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. 8 Yna dyma'r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua'r dwyrain, yn Eden, a rhoi'r dyn roedd wedi'i siapio yno. 9 Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o'r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i'w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy'n rhoi bywyd a'r goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. 10 Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio'r ardd. Wedyn roedd yn rhannu'n bedair cangen. 11 Pison ydy enw un. Mae hi'n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur 12 – aur pur iawn, ac mae perlau ac onics yno hefyd. 13 Gihon ydy enw'r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. 14 Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon. 15 Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani. 16 A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, 17 ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.” 18 Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.” 19 A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un. 20 Rhoddodd enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i'w gynnal. 21 Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. 22 Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi'i gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn. 23 A dyma'r dyn yn dweud,“O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi!
Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd.
‛Dynes‛ fydd yr enw arni,
am ei bod wedi'i chymryd allan o ddyn.”
24 Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig. Byddan nhw'n dod yn uned deuluol newydd. 25 Roedd y dyn a'i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.