Mae Efengyl Mathew yn llawn o ddyfyniadau o'r Hen Destament (Ysgrifau Sanctaidd yr Iddewon). Mae'r efengyl yn dangos mai Iesu ydy'r Meseia oedden nhw’n disgwyl amdano. Mae'n adrodd hanes bywyd Iesu o'i eni i'w atgyfodiad, ac yn rhoi sylw helaeth i ddysgeidiaeth Iesu.
MATHEW 22
Stori y wledd briodas
(Luc 14:15-24)
1 Dyma Iesu'n dweud stori arall wrthyn nhw: 2 “Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i'w fab. 3 Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw'n gwrthod dod. 4 “Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae'r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i'r wledd!’ 5 “Ond wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw sylw, dim ond cerdded i ffwrdd – un i'w faes, ac un arall i'w fusnes. 6 Yna dyma'r gweddill yn gafael yn y gweision a'u cam-drin nhw a'u lladd. 7 Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref. 8 “Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae'r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod. 9 Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy'n mynd allan o'r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i'r wledd.’ 10 Felly dyma'r gweision yn mynd allan i'r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw – y drwg a'r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion. 11 “Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim yn gwisgo dillad addas i briodas. 12 ‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai'r dyn ddim ateb. 13 “Yna dyma'r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a'i draed, a'i daflu allan i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.’ 14 “Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy'n cael eu dewis.”Talu trethi i Cesar
(Marc 12:13-17; Luc 20:20-26)
15 Dyma'r Phariseaid yn mynd allan a chynllwynio sut i'w gornelu a'i gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl. 16 Dyma nhw'n anfon rhai o'u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. Ref “Athro,” medden nhw, “dŷn ni'n gwybod dy fod ti'n onest a wir yn dysgu ffordd Duw. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. 17 Felly, beth ydy dy farn di? Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?” 18 Ond roedd Iesu'n gwybod mai drwg oedden nhw'n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi'n ceisio nal i? 19 Dangoswch i mi ddarn arian sy'n cael ei ddefnyddio i dalu'r dreth.” Dyma nhw'n dod â darn arian iddo, 20 a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” 21 “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.” 22 Roedden nhw wedi'u syfrdanu pan glywon nhw ei ateb, a dyma nhw'n mynd i ffwrdd.Priodas a'r Atgyfodiad
(Marc 12:18-27; Luc 20:27-40)
23 Yr un diwrnod dyma rhai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Nhw oedd yn dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw. 24 “Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i'w frawd briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’”Croes 25 “Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant. 26 A digwyddodd yr un peth i'r ail a'r trydydd, reit i lawr i'r seithfed. 27 Y wraig ei hun oedd yr olaf i farw. 28 Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o'r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!” 29 Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw. 30 Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw'r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd. 31 A bydd yna atgyfodiad! Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? – 32 ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’Croes Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw!” 33 Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu'n ei ddysgu.Y Gorchymyn Pwysica
(Marc 12:28-34; Luc 10:25-28)
34 Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd. 35 Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu: 36 “Athro, Pa un o'r gorchmynion yn y Gyfraith ydy'r pwysica?” 37 Atebodd Iesu: “ ‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl.’Croes 38 Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysica. 39 Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’Croes 40 Mae'r cwbl sydd yn y Gyfraith a'r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.”Mab pwy ydy'r Meseia?
(Marc 12:35-37; Luc 20:41-44)
41 Tra oedd y Phariseaid yno gyda'i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw, 42 “Beth ydy'ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?” “Mab Dafydd,” Ref medden nhw. 43 A dyma Iesu'n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw'n ‛Arglwydd‛? Achos mae'n dweud,44 ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd:
“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd, Ref
nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’Croes
45 Os ydy Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?” 46 Doedd gan yr un ohonyn nhw ateb, felly o hynny ymlaen wnaeth neb feiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.