Mae Exodus yn adrodd hanes rhywbeth ddigwyddodd 400 mlynedd ar ôl hanes Joseff. Roedd pobl Dduw bellach yn gaethweision ac yn cael eu gorthrymu gan yr Eifftiaid. Cawn hanes y ffordd ryfeddol roedd Duw ar waith ym mywyd Moses, o’i blentyndod (pan gafodd ei fabwysiadu gan ferch y Pharo) i’w alwad i arwain ei bobl i ryddid. Mae Duw yn taro’r Aifft gyda phlâu, ac yn defnyddio Moses i arwain ei bobl drwy’r Môr Coch at fynydd Sinai. Yno mae Duw yn rhoi’r Deg Gorchymyn a chyfarwyddiadau eraill i’w bobl – sut ddylen nhw fyw a sut i’w addoli. Er eu bod nhw’n bobl anufudd ac yn cwyno yn ei erbyn, mae Duw yn eu harwain drwy’r anialwch ac yn rhoi bwyd i’w fwyta a dŵr i’w yfed iddyn nhw.
EXODUS 29
Sut i gysegru'r offeiriaid
(Lefiticus 8:1-36)
1 “Dyma sut rwyt ti i'w cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi: Cymer darw ifanc a dau hwrdd sydd â ddim byd o'i le arnyn nhw. 2 Yna, gyda'r blawd gwenith gorau, gwna fara heb furum ynddo, cacennau wedi'u cymysgu gydag olew, a bisgedi tenau wedi'u socian mewn olew – y cwbl heb furum ynddyn nhw. 3 Rho'r rhain i gyd mewn basged, a mynd â nhw gyda'r tarw ifanc a'r ddau hwrdd. 4 Yna dos ag Aaron a'i feibion at y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Golcha nhw â dŵr. 5 Yna cymer y gwisgoedd ac arwisgo Aaron gyda'r crys, y fantell sy'n mynd gyda'r effod, yr effod ei hun a'r darn dros y frest, a chlymu'r effod gyda'r strap cywrain sydd wedi'i blethu. 6 Yna rho'r twrban ar ei ben, a rhwymo'r symbol ei fod wedi'i gysegru i waith Duw ar y twrban. 7 Yna ei eneinio drwy dywallt yr olew ar ei ben. 8 Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau nhw, 9 rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio. 10 “Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen pabell presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail. 11 Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. 12 Wedyn cymer beth o waed y tarw a'i roi ar gyrn yr allor gyda dy fys. Mae gweddill y gwaed i gael ei dywallt wrth droed yr allor. 13 Yna cymer y braster o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor. 14 Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e. 15 “Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail. 16 Wedyn lladd yr hwrdd, cymryd ei waed a'i sblasio o gwmpas yr allor. 17 Wedyn rhaid torri'r hwrdd yn ddarnau, golchi'r coluddion a'r coesau cyn eu gosod nhw ar y darnau a'r pen 18 ar yr allor, a llosgi'r cwbl. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. 19 “Yna cymryd yr ail hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar yr anifail yma eto. 20 Lladd yr hwrdd, yna cymer beth o'r gwaed a'i roi ar waelod clust dde Aaron, a'r un fath ar ei feibion. A hefyd ar fawd eu llaw dde ac ar fawd y droed dde. Yna sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor. 21 Wedyn cymryd peth o'r gwaed sydd ar yr allor, a'r olew eneinio, a'i daenellu ar Aaron a'i wisgoedd, ac ar feibion Aaron a'u gwisgoedd nhw. Wedyn bydd Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd wedi'u cysegru. 22 Yna cymer y braster i gyd, y braster ar gynffon yr hwrdd, y braster o gwmpas ei berfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan uchaf y goes dde (am mai hwrdd y cysegru ydy e). 23 Ac o'r fasged o fara heb furum ynddo sydd o flaen yr ARGLWYDD, cymer un dorth, un gacen wedi'i chymysgu gydag olew, ac un fisged denau wedi'i socian mewn olew. 24 Yna rho'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion i'w gyflwyno fel offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. 25 Wedyn rwyt i'w cymryd yn ôl ganddyn nhw, a llosgi'r cwbl ar yr allor. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – mae'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. 26 “Wedyn rwyt i gymryd brest hwrdd cysegru Aaron, a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Chi sydd i gadw'r darn yma. 27 Mae'r darnau gafodd eu chwifio a'u codi fel siâr Aaron o hwrdd y cysegru i gael eu gosod o'r neilltu – sef y frest a darn uchaf y goes ôl dde. 28 Aaron a'i feibion fydd piau'r rhannau yma o offrymau pobl Israel. Dyna fydd y drefn bob amser. Nhw sydd i gael y darnau yma o'r offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i ofyn am fendith yr ARGLWYDD. 29 “Mae gwisgoedd cysegredig Aaron i gael eu defnyddio pan fydd disgynyddion iddo yn cael eu heneinio a'u hordeinio ar ei ôl. 30 Bydd yr offeiriad fydd yn ei olynu yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod pan fydd yn mynd i babell presenoldeb Duw i wasanaethu yn y Lle Sanctaidd am y tro cyntaf. 31 “Rhaid i ti gymryd hwrdd y cysegru, a choginio'r cig mewn lle cysegredig. 32 Yna mae Aaron a'i feibion i fwyta cig yr hwrdd, gyda'r bara oedd yn y fasged, wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. 33 Dim ond nhw sydd i gael bwyta'r cig a'r bara gafodd eu defnyddio i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a Duw, pan oedden nhw'n cael eu hordeinio a'u cysegru i'r gwaith. Does neb arall yn cael eu bwyta, am eu bod wedi'u cysegru. 34 Os oes cig neu fara dros ben y bore wedyn, rhaid ei losgi. Dydy e ddim i gael ei fwyta am ei fod wedi'i gysegru. 35 “Dyna sydd i gael ei wneud i Aaron a'i feibion, yn union fel dw i wedi gorchymyn i ti. Mae'r seremoni ordeinio yn para am saith diwrnod. 36 Bob dydd rhaid i ti aberthu tarw ifanc yn offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw. Rwyt i buro'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i gael ei defnyddio, a'i chysegru drwy ei heneinio ag olew. 37 Am saith diwrnod rwyt i baratoi'r allor a'i chysegru i'w gwneud yn iawn i'w defnyddio. Wedyn bydd yr allor yn sanctaidd iawn, a bydd unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd yn gysegredig.Yr offrymau dyddiol
(Numeri 28:1-8)
38 “Dyma beth sydd i'w gyflwyno ar yr allor yn rheolaidd bob dydd: Dau oen blwydd oed – 39 un i'w gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi. 40 Mae'r oen cyntaf i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd, a litr o win yn offrwm o ddiod. 41 Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn a'r un offrwm o ddiod â'r bore – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. 42 Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti. 43 Dyna ble fydda i'n cyfarfod pobl Israel. Bydd fy ysblander i yn ei wneud yn lle cysegredig. 44 “Felly bydd y Tabernacl a'r allor wedi'u cysegru, a bydd Aaron a'i feibion wedi'u cysegru i fod yn offeiriaid i mi. 45 Dw i'n mynd i aros gyda pobl Israel. Fi fydd eu Duw nhw. 46 Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft er mwyn i mi fyw gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.