Does neb yn siŵr pryd yn union roedd Joel yn proffwydo. Mae’n defnyddio’r darlun o bla o locustiaid i ddisgrifio barn Duw ar ei bobl anufudd. Mae’r pla dinistriol yma yn rhybudd i’r bobl fod ‘dydd yr ARGLWYDD’ yn dod, pan fydd Duw yn eu barnu nhw am eu pechod. Ond mae hefyd yn her iddyn nhw ac yn alwad ar iddyn nhw newid eu ffyrdd. Mae Joel hefyd yn disgrifio’r fendith ysbrydol fyddai’n dilyn petaen nhw’n ufudd iddo. (Pan gafodd y Cristnogion cynnar eu llewni â’r Ysbryd Glân ar Ddydd y Pentecost, mae Pedr yn dyfynnu adnodau o Joel i esbonio beth oedd yn digwydd.)
JOEL 3
Yr ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd
1 Bryd hynny, bydda i'n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto.2 Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd
i “Ddyffryn Barn yr
ARGLWYDD” RefYno bydda i'n eu barnu nhw
am y ffordd maen nhw wedi trin
fy mhobl arbennig i, Israel.
Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman,Croes
rhannu y tir rois i iddyn nhw
3 a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion.
Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain,
a merch fach am win i'w yfed.
4 Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon Ref ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi! 5 Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi. 6 Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain. 7 Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi! 8 Bydda i'n rhoi'ch meibion a'ch merched chi i bobl Jwda i'w gwerthu. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid Ref sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!Dyffryn Barn yr ARGLWYDD
9 Cyhoedda wrth y cenhedloedd:Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.
Galwch eich milwyr gorau!
Dewch yn eich blaen i ymosod!
10 Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,
a'ch crymanau tocio yn waywffyn. Ref
Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”
11 Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd.
Dewch at eich gilydd yno!
(“
ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”) Ref12 Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd,
i Ddyffryn Barn yr
ARGLWYDD. RefYno bydda i'n eistedd i lawr
i farnu'r cenhedloedd i gyd.
i'w fedi gyda'r cryman!
Mae'r winwasg yn llawn grawnwin
sy'n barod i'w sathru! Ref
Bydd y cafnau yn gorlifo!
Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
14 Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!
Mae dydd barn yr
ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!15 Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu,
a'r sêr wedi diflannu.
ARGLWYDD yn rhuo o Seion;a'i lais yn taranu o Jerwsalem,Croes
nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu.
Ond mae'r
ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo,mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel.Croes
17 Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r
ARGLWYDD eich Duwa'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig.
Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig,Croes
a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.
Adfer Jwda a Jerwsalem
18 Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd,Croes
a llaeth yn llifo o'r bryniau;
fydd nentydd Jwda byth yn sychu.
Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo
allan o deml yr
ARGLWYDD,Croesi ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia. Ref
19 Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda,
a lladd pobl ddiniwed yno,
bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag
ac Edom yn anialwch llwm.
20 Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser,
ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall.
21 Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw?
Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw.
Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth!