Mae Galarnad yn gyfres o bump o gerddi sy’n disgrifio cyflwr Jerwsalem ar ôl i fyddin Babilon ddinistrio’r ddinas yn 586 C.C. Roedd Duw drwy’r proffwyd Jeremeia wedi rhybuddio pobl Jwda beth fyddai’n digwydd. Mae Galarnad yn disgrifio canlyniadau peidio gwrando arno. Mae’r ddinas wedi ei dinistrio, mae cyrff ym mhobman a’r rhan fwyaf o’r boblogaeth wedi eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. Mae’r awdur yn disgrifio’r canlyniadau erchyll, ac mae ei boen a’i alar yn ingol. Roedd wedi gweld y dinistr a’r dioddef. Ond er mai byddin Babilon oedd wedi llosgi’r ddinas, mae awdur y cerddi yma yn gwybod mai llaw Duw oedd tu ôl i’r cwbl. Mae’r bardd yn syfrdan wrth feddwl fod Duw wedi cosbi a dinistrio ei bobl ei hun, ac eto yn cydnabod eu bod yn llawn haeddu’r gosb. Ac eto, am ei fod yn gwybod fod Duw yn gyfiawn, mae yna lygedyn o obaith yma. Mae’r cerddi yn cloi gyda gweddi ar i Dduw adfer ei bobl eto.
GALARNAD 3
Cerdd 3 – Cosb a Gobaith
Y proffwyd:
1 Dw i'n ddyn sy'n gwybod beth ydy dioddef.
Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i.
2 Mae e wedi fy ngyrru i ffwrdd
i fyw yng nghanol tywyllwch dudew.
3 Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro,
yn ddi-stop.
4 Mae wedi curo fy nghorff yn ddim,
ac wedi torri fy esgyrn.
5 Mae fel byddin wedi fy amgylchynu,
yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw.
6 Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch
fel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
7 Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc.
Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trwm.
8 Dw i'n gweiddi'n daer am help,
ond dydy e'n cymryd dim sylw.
9 Mae wedi blocio pob ffordd allan;
mae pob llwybr fel drysfa!
10 Mae e fel arth neu lewCroes
yn barod i ymosod arna i.
11 Llusgodd fi i ffwrdd a'm rhwygo'n ddarnau.
Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun.
12 Anelodd ei fwa saeth ata i;
fi oedd ei darged.
a'm trywanu yn fy mherfedd.
14 Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort,Croes
ac yn fy ngwawdio i ar gân.
15 Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw;
mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod.
16 Mae wedi gwneud i mi gnoi graean,
ac wedi rhwbio fy wyneb yn y baw.
17 Does gen i ddim tawelwch meddwl;
dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus.
18 Dwedais, “Alla i ddim cario mlaen.
Dw i wedi colli pob gobaith yn yr
ARGLWYDD.”19 Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartref
yn brofiad chwerw!
20 Mae ar fy meddwl drwy'r amser,
ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd.
21 Ond wedyn dw i'n cofio hyn,
a dyma sy'n rhoi gobaith i mi:
ARGLWYDD yn ddiddiwedd,a'i garedigrwydd e'n para am byth.
23 Maen nhw'n dod yn newydd bob bore.
“
ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” ARGLWYDD sydd gen i,” Ref meddwn i,“felly ynddo fe dw i'n gobeithio.”
ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio,ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help.
26 Mae'n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar
i'r
ARGLWYDD ddod i'n hachub ni.27 Mae'n beth da i rywun ddysgu ymostwng Ref
tra mae'n dal yn ifanc.
28 Dylai rhywun eistedd yn dawel
pan mae'r
ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e.29 Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawr
yn y gobaith y bydd yr
ARGLWYDD yn ymyrryd.30 Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro,
a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio.
ein gwrthod ni am byth.
32 Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio,
achos mae ei gariad e mor fawr.
33 Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef
nac achosi poen i bobl.
34 Os ydy carcharorion gwlad yn cael eu sathru,
35 a hawliau dynol yn cael eu diystyru,
a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun;
36 os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys
– ydy'r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl?
37 Pwy sy'n gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwydd
heb i'r Arglwydd ei ganiatáu?
38 Onid y Duw Goruchaf sy'n dweud beth sy'n digwydd
– p'run ai dinistr neu fendith?
39 Pa hawl sydd gan rywun i gwyno
pan mae'n cael ei gosbi am ei bechod?
40 Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw,
a throi nôl at yr
ARGLWYDD.41 Gadewch i ni droi'n calonnau a chodi'n dwylo
at Dduw yn y nefoedd, a chyffesu,
42 “Dŷn ni wedi gwrthryfela'n ddifrifol,
a ti ddim wedi maddau i ni.
43 Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau,
gan ladd pobl heb ddangos trugaredd.
44 Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwl
nes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd.
45 Ti wedi'n gwneud ni fel sbwriel a baw
yng ngolwg y bobloedd.
yn gwneud hwyl am ein pennau.
47 Mae panig a'r pydew wedi'n dal ni,
difrod a dinistr.”
48 Mae afonydd o ddagrau yn llifo o'm llygaid
am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio.
49 Mae'r dagrau'n llifo yn ddi-baid;
wnân nhw ddim stopio
ARGLWYDD yn edrych i lawro'r nefoedd ac yn ein gweld ni.
51 Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas
yn fy ngwneud i mor drist.
52 Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn,
heb reswm da i wneud hynny.
53 Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydew
ac yna ei gau gyda charreg.
54 Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen;
rôn i'n meddwl mod i'n mynd i foddi.
55 Ond dyma fi'n galw arnat ti am help, O
ARGLWYDD,o waelod y pydew.
56 Dyma ti'n fy nghlywed i'n pledio,
“Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!”
57 A dyma ti'n dod ata i pan o'n i'n galw,
a dweud, “Paid bod ag ofn!”
58 Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos;
rwyt wedi dod i'm hachub.
59 Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O
ARGLWYDD,felly wnei di farnu o'm plaid i?
60 Ti wedi gweld eu malais nhw,
a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.
61 Ti wedi'u clywed nhw'n gwawdio, O
ARGLWYDD,a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.
62 Mae'r rhai sy'n ymosod arna i yn sibrwd
ac yn hel straeon yn fy erbyn drwy'r amser.
63 Edrycha arnyn nhw! – O fore gwyn tan nos
maen nhw'n fy ngwawdio i ar gân.
64 Tala nôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O
ARGLWYDD;rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu.
Melltithia nhw!
a'u dileu nhw oddi ar wyneb y ddaear, O
ARGLWYDD.