Roedd Seffaneia yn proffwydo rhwng tua 640 a 620 C.C., pan oedd Joseia yn frenin ar Jwda. Roedd dros hanner canrif wedi mynd heibio dan deyrnasiad un o’r brenhinoedd gwaethaf yn hanes Jwda, sef Manasse, a dwy flynedd arall dan deyrnasiad ei fab Amon. Ond yna cawn Joseia, un o frenhinoedd gorau Jwda, wnaeth bopeth o fewn ei allu i droi’r bobl yn ôl at Dduw. Plentyn wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, ac mae’n debyg fod Seffaneia yn proffwydo cyn i’w ddiwygiadau ddechrau. Mae’r proffwyd yn cyhoeddi barn Duw ar Jwda a’r gwledydd o’i chwmpas. Yna mae’n cyhoeddi barn ar ddinas Jerwsalem. Ond wedyn mae’r llyfr yn cloi gyda nodyn o obaith i’r cenhedloedd, a datganiad y bydd Jerwsalem yn dathlu. Gwelai fyd newydd lle roedd pobl yn addoli Duw.
SEFFANEIA 3
Barnu Jerwsalem
1 Mae ar ben ar y ddinas ystyfnig, lygredig,
sy'n gormesu ei phobl!
2 Mae'n gwrthod gwrando ar neb,
na derbyn cyngor.
Dydy hi ddim yn trystio'r
ARGLWYDDnac yn gofyn am arweiniad ei Duw.
3 Mae ei harweinwyr fel llewod
yn rhuo yn ei chanol.
Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn y nos
yn lladd eu prae a gadael dim ar ôl erbyn y bore.
4 Mae ei phroffwydi'n brolio ac yn twyllo.
Mae ei hoffeiriaid yn llygru beth sy'n sanctaidd,
ac yn torri Cyfraith Duw.
ARGLWYDD cyfiawn yn ei chanol.Dydy e'n gwneud dim sy'n annheg.
Mae ei gyfiawnder i'w weld bob bore,
mae mor amlwg a golau dydd.
Ond does gan y rhai drwg ddim cywilydd.
6 “Dw i wedi dinistrio gwledydd eraill
a chwalu eu tyrau amddiffyn.
Mae eu strydoedd yn wag
heb neb yn cerdded arnyn nhw.
Mae eu dinasoedd wedi'u difa.
Does neb ar ôl, yr un enaid byw.
7 Meddyliais, ‘Byddi'n fy mharchu i nawr,
a derbyn y cyngor dw i'n ei roi i ti!
A fydd dim rhaid i dy dai gael eu dinistrio
gan y gosb rôn i wedi'i fwriadu.’
Ond na, roedden nhw'n dal ar frys
i wneud popeth sydd o'i le.”
ARGLWYDD yn datgan,“Arhoswch chi amdana i!
Mae'r diwrnod yn dod pan fydda i'n codi ac yn ymosod.
Dw i'n bwriadu casglu'r cenhedloedd at ei gilydd
a thywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw.
Bydd fy nicter fel tân yn difa'r ddaear!”
Yr ARGLWYDD yn bendithio'i bobl
9 “Yna bydda i'n rhoi geiriau glân i'r holl bobloedd,
iddyn nhw i gyd addoli'r
ARGLWYDD.A byddan nhw i gyd yn ufudd gyda'i gilydd.
10 O'r tu draw i afonydd pell dwyrain Affrica Ref
bydd y rhai sy'n gweddïo arna i
yn dod ag anrhegion i mi.
11 Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat ti
am yr holl bethau ti wedi'i gwneud yn fy erbyn i.
Bydda i'n cael gwared â'r rhai balch sy'n brolio.
Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i.
12 Bydda i'n gadael y rhai tlawd gafodd eu cam-drin yn dy ganol,
a byddan nhw'n trystio'r
ARGLWYDD.13 Fydd y rhai sydd ar ôl o Israel yn gwneud dim byd drwg,
yn dweud dim celwydd nac yn twyllo.
Byddan nhw fel defaid yn pori'n ddiogel
ac yn gorwedd heb neb i'w dychryn.”
14 Canwch yn llawen, bobl Seion!
Gwaeddwch yn uchel bobl Israel!
Byddwch lawen a gorfoleddwch â'ch holl galon,
bobl Jerwsalem!
ARGLWYDD wedi cymryd y gosb i ffwrdd,ac yn cael gwared â dy elynion di.
Bydd Brenin Israel yn dy ganol
a fydd dim rhaid i ti fod ag ofn.
16 Yr adeg hynny byddan nhw'n dweud wrth Jerwsalem,
“Paid bod ag ofn, Seion! Paid anobeithio.
ARGLWYDD dy Dduw gyda ti,fel arwr i dy achub di.
Bydd e wrth ei fodd gyda ti.
Bydd yn dy fwytho gyda'i gariad,
ac yn dathlu a chanu'n llawen am dy fod yn ôl.”
18 “Bydda i'n casglu'r rhai sy'n galaru am y gwyliau,
y rhai hynny mae'r cywilydd wedi bod yn faich arnyn nhw.
19 Bryd hynny bydda i'n delio gyda'r rhai wnaeth dy gam-drin.
Bydda i'n achub y defaid cloff
ac yn casglu'r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl.Croes
Bydd pobl drwy'r byd yn gwybod, ac yn eu canmol
yn lle codi cywilydd arnyn nhw.
20 Bryd hynny bydda i'n dod â chi'n ôl;
bydda i'n eich casglu chi at eich gilydd.
Byddwch chi'n enwog drwy'r byd i gyd,
pan fydda i'n gwneud i chi lwyddo eto,”
—meddai'r
ARGLWYDD.