1 A dyma'r llais yn dweud wrtho i, “Ddyn, bwyta'r sgrôl yma sydd o dy flaen, ac wedyn mynd i siarad gyda phobl Israel.”
2 Felly dyma fi'n agor fy ngheg, a dyma fe'n bwydo'r sgrôl i mi.
3 A dyma fe'n dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gyda'r sgrôl yma dw i'n ei rhoi i ti.” A dyma fi'n ei bwyta. Roedd hi'n blasu'n felys fel mêl.
4 A dyma fe'n dweud wrtho i, “Ddyn, dos at bobl Israel a dweud beth ydy fy neges i iddyn nhw.
5 Dw i ddim yn dy anfon di at bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall. Pobl Israel ydyn nhw.
6 Petawn i'n dy anfon di at dyrfa o bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall, mae'n siŵr y byddai'r rheiny yn gwrando arnat ti!
7 Ond fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Maen nhw'n bobl ofnadwy o benstiff ac ystyfnig.
8 Felly dw i'n mynd i dy wneud di'r un mor benderfynol a phenstiff ag ydyn nhw!
9 Bydda i'n dy wneud di yn galed fel diemwnt (sy'n gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di. Maen nhw'n griw o rebeliaid.
10 “Felly, gwranda di'n ofalus ar bopeth dw i'n ddweud, a'i gymryd o ddifrif.
11 Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhw'n dewis gwrando neu beidio.”
12 Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi o'i le.
13 Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr.
14 Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Rôn i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.
15 Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, Ref sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo.
Penodi Eseciel yn WyliwrCroes
(Eseciel 33:1-9)
16 Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
17 “Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.
18 Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi'i rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.
19 Ond os byddi di wedi'i rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.Croes20 “Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi'i rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd.
21 Ond os byddi di wedi'i rybuddio fe i beidio pechu, ac yntau wedi gwrando arnat ti, bydd e'n cael byw, a byddi di hefyd wedi achub dy hun.”
Eseciel yn methu siarad
22 Dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dyma fe'n dweud, “Cod ar dy draed. Dos allan i'r dyffryn, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”
23 Felly dyma fi'n codi'n syth, ac yn mynd allan i'r dyffryn. A dyma fi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD eto, yn union yr un fath ag wrth Gamlas Cebar. Syrthiais ar fy wyneb ar lawr.
24 Ond yna dyma ysbryd yn mynd i mewn i mi ac yn fy nghodi ar fy nhraed. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos, a chau dy hun i mewn yn dy dŷ.
25 Bydd y bobl yma'n dy rwymo di gyda rhaffau, er mwyn dy rwystro di rhag cymysgu gyda nhw y tu allan.
26 Bydda i'n gwneud i dy dafod di sticio i dop dy geg a fyddi di ddim yn gallu siarad na dweud wrthyn nhw beth maen nhw'n ei wneud o'i le. Maen nhw'n griw o rebeliaid.
27 Ond pan fydd gen i rywbeth i'w ddweud wrthot ti, bydda i'n agor dy geg di i ti allu dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Cân nhw ddewis os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw o rebeliaid.”
Roedd Eseciel yn offeiriad, ac yn proffwydo rhwng tua 595 a 570 C.C. Roedd yn un o’r Iddewon oedd wedi eu cymryd yn gaethion i Babilon. Cafodd weledigaethau rhyfeddol, ac mae Eseciel yn atgoffa’r bobl o’r pechod wnaeth arwain at y gaethglud, ond hefyd yn cynnig gobaith y bydd y genedl yn cael ei hadfer. Ei neges dro ar ôl tro ydy y byddan nhw rhyw ddydd yn deall pwy ydy o – yr ARGLWYDD.
Yn y 24 pennod cyntaf mae’n proffwydo y byddai Jerwsalem yn cael ei dinistrio. Yn penodau 25 i 32 mae’n proffwydo y byddai’r gwledydd o gwmpas Israel yn syrthio. Yna yng ngweddill y llyfr mae’n proffwydo dyfodol gwych i’w bobl, ac yn addo y byddai Duw unwaith eto yn byw yn eu plith nhw.
Mae Eseciel yn dangos nad ydy daearyddiaeth yn cyfyngu Duw. Babilon oedd y lle olaf ar y ddaear y byddai unrhyw un o bobl Israel yn disgwyl cael gweledigaeth o ysblander Duw.