Mae Exodus yn adrodd hanes rhywbeth ddigwyddodd 400 mlynedd ar ôl hanes Joseff. Roedd pobl Dduw bellach yn gaethweision ac yn cael eu gorthrymu gan yr Eifftiaid. Cawn hanes y ffordd ryfeddol roedd Duw ar waith ym mywyd Moses, o’i blentyndod (pan gafodd ei fabwysiadu gan ferch y Pharo) i’w alwad i arwain ei bobl i ryddid. Mae Duw yn taro’r Aifft gyda phlâu, ac yn defnyddio Moses i arwain ei bobl drwy’r Môr Coch at fynydd Sinai. Yno mae Duw yn rhoi’r Deg Gorchymyn a chyfarwyddiadau eraill i’w bobl – sut ddylen nhw fyw a sut i’w addoli. Er eu bod nhw’n bobl anufudd ac yn cwyno yn ei erbyn, mae Duw yn eu harwain drwy’r anialwch ac yn rhoi bwyd i’w fwyta a dŵr i’w yfed iddyn nhw.
EXODUS 32
Y bobl yn gwneud eilun i'w addoli
(Deuteronomium 9:6-29)
1 Pan welodd y bobl fod Moses yn hir iawn yn dod i lawr o'r mynydd, dyma nhw'n casglu o gwmpas Aaron a dweud wrtho, “Tyrd, gwna rywbeth. Gwna dduwiau i ni i'n harwain. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft!” 2 Felly dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch y modrwyau aur sydd yng nghlustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â nhw i mi.” 3 Felly dyma'r bobl i gyd yn tynnu eu clustdlysau, a dod â nhw i Aaron. 4 Cymerodd yr aur ganddyn nhw, a defnyddio offer gwaith metel i wneud eilun ar siâp tarw ifanc allan ohono. A dyma'r bobl yn dweud, “O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft!” 5 Pan welodd Aaron eu hymateb nhw, dyma fe'n codi allor o flaen yr eilun, ac yna'n gwneud cyhoeddiad, “Yfory byddwn ni'n cynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD!” 6 Felly dyma nhw'n codi'n gynnar y bore wedyn a chyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, ac yna codi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd. 7 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Brysia, dos yn ôl i lawr! Mae dy bobl di, y rhai ddaethost ti â nhw allan o wlad yr Aifft, wedi gwneud peth ofnadwy. 8 Maen nhw eisoes wedi troi i ffwrdd oddi wrth beth wnes i orchymyn – maen nhw wedi gwneud eilun ar siâp tarw ifanc, ac wedi'i addoli ac aberthu iddo a dweud, ‘O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â ti allan o'r Aifft!’” 9 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n edrych ar y bobl yma, ac yn gweld eu bod nhw'n bobl ystyfnig iawn. 10 Gad lonydd i mi. Dw i wedi digio'n lân gyda nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw. Bydda i'n dy wneud di, Moses, yn dad i genedl fawr yn eu lle nhw.” 11 Ond dyma Moses yn ceisio tawelu'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud wrtho, “O ARGLWYDD, pam wyt ti mor ddig hefo dy bobl? Ti sydd wedi defnyddio dy rym a dy nerth i ddod â nhw allan o wlad yr Aifft. 12 Wyt ti am i'r Eifftiaid ddweud, ‘Roedd e eisiau gwneud drwg iddyn nhw. Dyna pam wnaeth e eu harwain nhw allan. Roedd e eisiau eu lladd nhw ar y mynyddoedd, a chael gwared â nhw'n llwyr oddi ar wyneb y ddaear!’? Paid bod mor ddig. Meddwl eto cyn gwneud y fath ddrwg i dy bobl! 13 Cofia beth wnest ti ei addo i dy weision Abraham, Isaac a Jacob. Dwedaist wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd i roi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr, a dw i'n mynd i roi'r tir yma dw i wedi bod yn sôn amdano i dy ddisgynyddion di. Byddan nhw'n ei etifeddu am byth.’” 14 Felly dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. Roedd yn sori ei fod wedi bwriadu gwneud niwed i'w bobl. 15 A dyma Moses yn dechrau yn ôl i lawr o ben y mynydd. Roedd yn cario dwy lech y dystiolaeth yn ei ddwylo. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y llechi. 16 Duw ei hun oedd wedi'u gwneud nhw, a Duw oedd wedi ysgrifennu arnyn nhw – roedd y geiriau wedi'u crafu ar y llechi. 17 Pan glywodd Josua holl sŵn y bobl yn gweiddi, dyma fe'n dweud wrth Moses, “Mae'n swnio fel petai yna ryfel yn y gwersyll!” 18 A dyma Moses yn ateb,“Nid cân dathlu buddugoliaeth, glywa i,
na chân wylo'r rhai sydd wedi'u trechu,
ond canu gwyllt rhai'n cynnal parti.”
19 Pan gyrhaeddodd y gwersyll a gweld yr eilun o darw ifanc, a'r bobl yn dawnsio'n wyllt, dyma Moses yn colli ei dymer yn lân. Taflodd y llechi oedd yn ei ddwylo ar lawr, a dyma nhw'n malu'n deilchion wrth droed y mynydd. 20 Yna dyma fe'n cymryd yr eilun o darw ifanc a'i doddi yn y tân. Wedyn ei falu'n lwch mân, ei wasgaru ar y dŵr, a gwneud i bobl Israel ei yfed. 21 A dyma Moses yn troi at Aaron a gofyn iddo, “Beth wnaeth y bobl yma i ti? Pam wyt ti wedi gwneud iddyn nhw bechu mor ofnadwy?” 22 Atebodd Aaron, “Paid bod yn ddig, meistr. Ti'n gwybod fel mae'r bobl yma'n tueddu i droi at y drwg. 23 Dyma nhw'n dweud wrtho i, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’ 24 Felly dyma fi'n dweud wrthyn nhw, ‘Os oes gan rywun aur, rhowch e i mi.’ A dyma nhw'n gwneud hynny. Wedyn pan deflais i'r cwbl i'r tân, dyma'r tarw ifanc yma'n dod allan.” 25 Roedd Moses yn gweld fod y bobl allan o reolaeth yn llwyr – roedd Aaron wedi gadael iddyn nhw redeg yn wyllt, a gallai'r stori fynd ar led ymhlith eu gelynion. 26 Felly dyma Moses yn sefyll wrth y fynedfa i'r gwersyll a galw ar y bobl, “Os ydych chi ar ochr yr ARGLWYDD, dewch yma ata i.” A dyma'r Lefiaid i gyd yn mynd ato. 27 A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gwisgwch eich cleddyfau! Ewch drwy'r gwersyll, o un pen i'r llall, a lladd eich brodyr, eich ffrindiau a'ch cymdogion!’” 28 Gwnaeth y Lefiaid beth ddwedodd Moses, a chafodd tua tair mil o ddynion eu lladd y diwrnod hwnnw. 29 Yna dyma Moses yn dweud, “Dych chi wedi cael eich ordeinio i wasanaethu'r ARGLWYDD heddiw. Am eich bod wedi bod yn fodlon troi yn erbyn mab neu frawd, mae'r ARGLWYDD wedi'ch bendithio chi'n fawr heddiw.” 30 Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dych chi wedi pechu'n ofnadwy. Ond dw i am fynd yn ôl i fyny at yr ARGLWYDD. Falle y galla i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw, iddo faddau i chi am eich pechod.” 31 Felly dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O plîs! Mae'r bobl yma wedi pechu'n ofnadwy yn dy erbyn di. Maen nhw wedi gwneud duwiau o aur iddyn nhw'u hunain. 32 Petaet ti ond yn maddau iddyn nhw …! Os na wnei di, dw i eisiau i ti ddileu fy enw i oddi ar dy restr.” 33 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Y person sydd wedi pechu yn fy erbyn i fydd yn cael ei ddileu oddi ar fy rhestr i. 34 Felly, dos di yn dy flaen, ac arwain y bobl yma i'r lle dw i wedi dweud wrthot ti amdano. Edrych, bydd fy angel yn mynd o dy flaen di. Ond pan ddaw'r amser i mi gosbi, bydda i'n reit siŵr o'u cosbi nhw am eu pechod.” 35 A dyma'r ARGLWYDD yn anfon pla ar y bobl am iddyn nhw wneud y tarw – yr un wnaeth Aaron.