Negeseuon Jeremeia i'r Brenin Sedeceia ac i'r Rechabiaid
(34:1—35:19)
Neges i Sedeceia, brenin Jwda
1 Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin (oedd yn cynnwys milwyr o'r holl wledydd roedd wedi'u concro) yn ymosod ar Jerwsalem a'r trefi o'i chwmpas. A dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia,
2 a dweud wrtho am fynd i ddweud wrth Sedeceia, brenin Jwda: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon, a bydd yn ei llosgi'n ulw.
3 A fyddi di ddim yn dianc o'i afael. Byddi'n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o'i flaen a'i wynebu'n bersonol. Wedyn byddi'n cael dy gymryd i Babilon.’
4 Ond gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud amdanat ti, Sedeceia, brenin Jwda. Mae'n dweud: ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddienyddio.
5 Byddi'n cael marw'n dawel. Byddan nhw'n llosgi arogldarth yn dy angladd di, yn union fel gwnaethon nhw i'r brenhinoedd oedd o dy flaen di. Byddan nhw'n wylo ac yn galaru ar dy ôl di, “O, ein meistr!” Dw i'n addo i ti. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.’”
6 Felly, dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud hyn i gyd wrth Sedeceia, brenin Jwda.
7 Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, a hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, Ref yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir.
Rhyddid i gaethweision
8 Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i'r Brenin Sedeceia ymrwymo gyda'r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd.
9 Roedd pawb i fod i ryddhau'r dynion a'r merched oedd yn gaethweision.Croes Doedd neb i fod i gadw un o'u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth.
10 Cytunodd pawb, yr arweinwyr a'r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd – y dynion a'r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw'n gwneud beth roedden nhw wedi'i addo.
11 Ond ar ôl hynny dyma nhw'n newid eu meddyliau, a chymryd y dynion a'r merched yn ôl, a'u gorfodi i weithio fel caethweision eto.
12 Dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD y neges yma i Jeremeia:
13 “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, a'u rhyddhau nhw o fod yn gaethweision, gwnes i gytundeb gyda nhw:
14 “Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi'ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.”Croes Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i.
15 Ond yna'n ddiweddar dyma chi'n newid eich ffyrdd a gwneud beth roeddwn i eisiau. Dyma chi'n gadael i'ch cydwladwyr fynd yn rhydd, ac mewn seremoni yn y deml ymrwymo i gadw at hynny.
16 Ond wedyn dyma chi'n newid eich meddwl eto a dangos bod gynnoch chi ddim parch ata i go iawn. Dyma chi'n cymryd y dynion a'r merched oedd wedi cael eu gollwng yn rhydd i fyw eu bywydau eu hunain, a'u gwneud nhw'n gaethweision unwaith eto!
17 “‘Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dych chi ddim wedi gwrando arna i go iawn. Dych chi ddim wedi gollwng eich cymdogion a'ch cydwladwyr yn rhydd. Felly dw i'n mynd i roi rhyddid i ryfel, newyn a haint eich lladd chi.” Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. “Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dychryn pobl y gwledydd i gyd.
18 Bydda i'n cosbi'r bobl hynny sydd wedi torri amodau'r ymrwymiad. Bydda i'n eu gwneud nhw fel y llo gafodd ei dorri yn ei hanner ganddyn nhw wrth dyngu'r llw a cherdded rhwng y darnau. Ref19 Bydda i'n cosbi swyddogion Jwda, swyddogion Jerwsalem, swyddogion y llys brenhinol, yr offeiriaid, a phawb arall wnaeth gerdded rhwng y darnau o'r llo.
20 Byddan nhw'n cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion sydd am eu lladd nhw. Bydd eu cyrff yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwyllt.
21 Bydd y Brenin Sedeceia a'i swyddogion yn cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion hefyd. Mae brenin Babilon a'i fyddin wedi mynd i ffwrdd a stopio ymosod arnoch chi am y tro.
22 Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i orchymyn iddyn nhw ddod yn ôl yn fuan iawn. Byddan nhw'n ymladd yn erbyn y ddinas yma, yn ei choncro, ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd trefi Jwda yn cael eu dinistrio'n llwyr, a fydd neb yn byw yno.”’”
Roedd Jeremeia’n proffwydo am 40 mlynedd o tua 626 i 587 C.C. Cafodd ei alw i fod yn broffwyd pan yn fachgen ifanc. Cafodd amser caled iawn – cafodd ei wawdio, ei guro a’i garcharu a bron cael ei ladd am gyhoeddi neges Duw. Roedd Jeremeia ei hun yn stryglo hefyd. Mae’n dadlau, a hyd yn oed yn gwylltio gyda Duw, ac yn dweud y byddai’n well ganddo farw. Doedd ganddo ddim eisiau cyhoeddi neges mor dywyll. Byddai’n well ganddo gau ei geg, ond mae’n dweud fod neges Duw fel tân yn llosgi tu mewn iddo. Roedd yn cyhoeddi fod gwlad Jwda yn mynd i gael ei chosbi am ei phechod. Byddai’r Babiloniaid creulon yn ymosod ar y wlad, a fyddai dim yn eu rhwysto – cytundebau gwleidyddol a help gan yr Aifft, na’u crefydda arwynebol. Ac wrth gwrs, daeth proffwydoliaeth Jeremeia yn wir – mae’r bennod olaf yn disgrifio sut wnaeth byddin Babilon goncro a dinistrio Jerwsalem.