Yn Genesis mae Duw yn creu y byd yn dda, ond mae’r bobl gafodd eu creu ganddo yn anufudd iddo. Maen nhw’n gwneud drwg ac yn mynd o ddrwg i waeth. Yna cawn hanes enwog Arch Noa, a dechrau newydd gyda Duw yn galw dyn o’r enw Abram (newidiodd Duw ei enw i Abraham yn nes ymlaen). Cawn hanesion Duw ar waith ym mywydau Abraham, ei fab Isaac, ei ŵyr Jacob, ac ym mywyd un o feibion Jacob, sef Joseff. Mae’r llyfr yn cloi gyda Joseff yn brif weinidog yr Aifft, a’i dad, ei frodyr a’u teuluoedd wedi symud i fyw yno.
GENESIS 35
Jacob yn mynd yn ôl i Bethel
1 Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli'r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti'n dianc oddi wrth dy frawd Esau.” 2 Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â'r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân. 3 Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i'r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau'n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o'r ffordd.” 4 Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Claddodd Jacob y cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem, 5 ac yna dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw. 6 Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan. 7 Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, Ref am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau. ’8 A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo. Ref 9 A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram). 10 Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel. 11 Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Ref Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. 12 Ti sydd i gael y tir rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.” 13 Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob. 14 Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad ag e. Colofn garreg oedd hi, a thywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd. 15 Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad ag e yn Bethel.Rachel yn marw wrth gael plentyn
16 Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael ei babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed. 17 Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf, dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.” 18 A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; Ref ond galwodd ei dad e yn Benjamin. Ref ’19 Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef Bethlehem). 20 Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw – Cofeb Bedd Rachel. 21 Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder. RefMeibion Jacob
(1 Cronicl 2:1-2)
22 Tra oedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner Ref ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth. Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:- 23 Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
- 24 Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
- 25 Meibion Bilha, morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
- 26 Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher.