MICHA 4
Mae dyddiau gwell i ddod
(Eseia 2:2-4)
1 Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr
ARGLWYDD
wedi'i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill
a'i godi'n uwch na'r bryniau.
2 Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno
a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:
“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr
ARGLWYDD,
Ref
a mynd i deml Duw Jacob,
iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,
ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”
Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,
a neges yr
ARGLWYDD o Jerwsalem.
3 Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddCroes
ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell.
Byddan nhw'n curo'u cleddyfau yn sychau aradr
a'u gwaywffyn yn grymanau tocio.
Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,
nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.Croes
4 Bydd pawb yn eistedd dan ei winwyddenCroes
a'i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.
Mae'r
ARGLWYDD hollbwerus wedi addo'r peth!
5 Tra mae'r gwledydd o'n cwmpas
yn dilyn eu duwiau eu hunain,
byddwn ni yn dilyn yr
ARGLWYDD ein Duw
am byth bythoedd!
Pobl Dduw yn mynd adre o'r gaethglud
6 “Bryd hynny,” meddai'r
ARGLWYDD,
“bydda i'n galw'r rhai cloff,
ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl,
a'r rhai wnes i eu hanafu.
7 Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl;
a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref.
Bydd yr
ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw
ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!”
8 A byddi di – y tŵr i wylio'r praidd,
sef dinas gaerog pobl Seion –
yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl.
Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem.
9 Ond nawr, pam wyt ti'n gweiddi a sgrechian?
Oes gen ti ddim brenin i dy helpu?
Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw?
Ai dyna pam ti'n gwingo mewn poen
fel gwraig ar fin cael babi?
10 Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion,
fel gwraig mewn poen wrth gael babi!
Bydd rhaid i chi adael y ddinas
a gwersylla yng nghefn gwlad,
ar eich ffordd i Babilon.
Ond yno bydd yr
ARGLWYDD yn eich achub,
a'ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn.
11 Ar hyn o bryd mae gwledydd lawer
wedi casglu i ymladd yn dy erbyn.
“Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw.
“Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!”
12 Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr
ARGLWYDD!
Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e –
i'w casglu nhw fel gwenith i'r llawr dyrnu!
13 Tyrd i ddyrnu, ferch Seion!
Dw i'n mynd i roi cyrn o haearn
a charnau o bres i ti;
a byddi'n sathru llawer o wledydd.
Byddi'n rhoi'r ysbail i gyd i'r
ARGLWYDD,
ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan.
I'r pen