1 Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu.
2 Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora Ref o aur pur, gyda phowlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw.
3 Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr i'r powlen.”
4 A dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?” Ref5 “Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddai'r angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.
6 Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: RefCroes ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud.
7 Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’”
8 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
9 “Serwbabel wnaeth osod sylfeini y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.
10 “Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.”
11 A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?”
12 A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?”
13 “Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.
14 A dyma fe'n dweud, “Maen nhw'n cynrychioli'r ddau ddyn sydd wedi'u heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.”
Roedd Sechareia yn proffwydo rhwng tua 520 a 475 C.C. Fel Haggai, roedd yntau yn galw ar y bobl yn Jerwsalem i ailadeiladu’r deml. Ond yn ôl Sechareia, y peth sylfaenol oedd eu perthynas nhw â Duw – mae’n galw arnyn nhw i droi yn ôl ato, a peidio bod yn ystyfnig fel eu hynafiaid. Yn y seithfed bennod mae’n dangos mai cyfiawnder a charedigrwydd mae Duw eisiau, nid rhyw grefydda arwynebol.
Mae gweledigaethau’r chwe pennod cyntaf yn ddarluniau sy’n eu hannog i fwrw iddi, am fod Duw yn rhoi dechrau newydd iddyn nhw. Mae ail hanner y llyfr yn dangos fod y dechrau newydd yma yn mynd i droi’n obaith i’r byd. Yna mae yma broffwydoliaethau am y Meseia oedd i ddod ryw ddydd – darluniau o ddioddefaint a brwydrau ysbrydol wnaeth helpu’r Cristnogion cynnar i ddeall marwolaeth, atgyfodiad ac ail-ddyfodiad Iesu Grist.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy?
Roedd Sechareia yn broffwyd ac yn offeiriad. (Clicia yma i ddarllena mwy am Y Proffwydi os wyt ti am ddysgu mwy amdanyn nhw). Roedd yn dod o deulu offeiriadol ac mae ei daid/dad-cu, Ido, yn cael ei enwi yn Nehemeia 12.4 fel un o’r offeiriad ddaeth yn ôl i Jerwsalem ar ôl i’r Iddewon gael eu concro gan fyddin Babilon a’u gorfodi i fyw yng ngwlad Babilon am gyfnod hir mewn caethglud. Mae’n debyg fod...