Pennod 5
Ein cartre nefol
1 Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dyn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dyn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni — cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe'i hun.
2 Yn y cyfamser dyn ni'n hiraethu am gael ein gwisgo â'n cyrff nefol.
3 A byddwn yn eu gwisgo — fydd dim rhaid i ni aros yn noeth.
4 Tra'n byw yn y babell ddaearol, dyn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dyn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff — dyn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dyn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth.
5 Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.
6 Felly dyn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu.
7 Dyn ni'n byw yn ôl beth dyn ni'n ei gredu, dim yn ôl beth dyn ni'n ei weld.
8 Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd!
9 Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe.
10 Achos bydd pob un ohonon ni'n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb dderbyn beth mae'n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg.
Llysgenhadon Duw
11 Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dyn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd.
12 Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dyn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon.
13 Os dyn ni'n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os dyn ni'n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi.
14 Cariad y Meseia sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. A dyma'n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw.
15 Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i'r rhai sy'n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio'r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto.
16 Bellach dyn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae'r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dyn ni ddim yn gwneud hynny mwyach.
17 Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le!
18 A Duw sy'n gwneud y cwbl — mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e'i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi'r gwaith i ni o rannu'r neges gyda phobl eraill.
19 Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe'i hun â'r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni y gwaith o ddweud am hyn wrth bobl.
20 Dyn ni'n llysgenhadon yn cynrychioli'r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dyn ni'n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw!
21 Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e'n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dyn ni'n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.
I'r pen