Pennod 5
Galw pobl i newid eu ffyrdd
1 Gwrandwch arna i'n galaru! Dw i'n canu cân angladdol i gofio amdanat ti, wlad Israel:
2 “Mae Israel fel merch ifanc wedi ei tharo i lawr,
mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlad
a does neb i'w chodi ar ei thraed.”
3 Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel:
“Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre
anfonodd fil allan i'r fyddin,
a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre
anfonodd gant i'r fyddin.”
4 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel:
“Tro yn ôl ata i, a chei fyw!
5 Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel,
na mynd i ymweld â chysegr Gilgal,
na chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beerseba.
Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo,
a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”
6 Tro yn ôl at yr
ARGLWYDD, a chei fyw!
Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân
ac yn llosgi Bethel yn ulw;
a fydd neb yn gallu diffodd y tân.
7 Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw,
ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir!
8 Duw ydy'r un wnaeth y sêrCroes —
Pleiades ac Orïon.
Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore,
ac yn troi'r dydd yn nos dywyll.
Mae e'n cymryd dŵr o'r môr
ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir
— yr
ARGLWYDD ydy ei enw e!
9 Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,
nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!
10 Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;
ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.
11 Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm
a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:
Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,
gewch chi ddim byw ynddyn nhw.
Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,
gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
12 Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,
ac wedi pechu'n ddiddiwedd
drwy gam-drin pobl onest,
a derbyn breib i wrthod cyfiawnder
i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
13 Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel,
achos mae'n amser drwg.
14 Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,
a chewch fyw!
Wedyn bydd yr
ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,
gyda chi go iawn
(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)
15 Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, efallai y bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.
16 Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — fy meistr i, y Duw holl-bwerus:
“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,
a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’
Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,
a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.
17 Bydd pobl yn wylo'n uchel,
hyd yn oed yn y gwinllannoedd,
achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.”
— yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
18 Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen
i'r diwrnod pan fydd yr
ARGLWYDD yn dod!
Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw?
Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!
19 Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew
ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod.
Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel,
ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!
20 Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr
ARGLWYDD yn dod —
diwrnod tywyll fydd e, dim un golau!
Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!
21 “Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi,
ac yn eu diystyru nhw.
Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi.Croes
22 Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi,
ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw.
Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi,
ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!
23 Plîs stopiwch ddod yma i forio canu eich emynau,
does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich offerynnau cerdd chi.
24 Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,
a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.
25 “Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel?
26 “A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‘brenin’ Saccwth, a'ch delw o Caiwan — sef duwiau'r sêr dych chi wedi eu llunio i chi'ch hunain!
27 Felly, bydda i'n eich gyrru chi'n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.”
— yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn, sef yr un sy'n cael ei alw y Duw holl-bwerus.
I'r pen