Roedd Eseia yn proffwydo o tua 740 i 700 C.C. Roedd yn amlwg yn dod o deulu dylanwadol, gan ei fod yn mynd yn ôl ac ymlaen i balas y brenin yn Jerwsalem. Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd mewn gweledigaeth ryfeddol pan oedd yn y deml (Eseia 6). Roedd yn cyhoeddi barn Duw ar Jerwsalem a Jwda am eu pechod, a daeth ei broffwydoliaethau yn wir ganrif yn ddiweddarach pan wnaeth byddin Babilon goncro’r wlad a dinistrio Jerwsalem. Ond mae yma hefyd broffwydoliaethau rhyfeddol o obaith. Mae rhai pobl yn galw Eseia “y bumed efengyl” gan fod rhai adrannau o’r broffwydoliaeth yn amlwg wedi eu cyflawni yng ngenedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu saith canrif yn ddiweddarach. Mae rhan olaf y llyfr yn broffwydoliaethau am Dduw yn adfer Israel, yn achub ei bobl, ac yn sefydlu teyrnas dragwyddol.
ESEIA 51
Yr ARGLWYDD yn cysuro
1 “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn,
ac yn ceisio'r
ARGLWYDD:ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni,
a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
2 Meddyliwch am Abraham, eich tad,
a Sara, y cawsoch eich geni iddi.
Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno,
ond bendithiais e,Croes a'i wneud yn llawer.
ARGLWYDD yn cysuro Seion,bydd yn cysuro'i hadfeilion.
Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden,
a'i diffeithwch fel gardd yr
ARGLWYDD.Bydd llawenydd a dathlu i'w clywed ynddi,
lleisiau'n diolch a sŵn canu.
daliwch sylw, fy nghenedl.
Achos bydda i'n dysgu pobl,
a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.
5 Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn,
dw i ar fy ffordd i achub,
a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd.
Bydd yr ynysoedd yn troi ata i,
ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.
ac edrychwch ar y ddaear islaw:
bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg,
y ddaear yn treulio fel dillad,
a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed,
ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth,
a'm cyfiawnder ddim yn pallu.
7 Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn,
y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau.
Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi,
na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.
8 Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn,
a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân.
Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth,
a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”
9 Deffra, deffra! Dangos dy nerth,
o fraich yr
ARGLWYDD!Deffra, fel yn yr hen ddyddiau,
yn yr amser a fu!
Onid ti dorrodd Rahab Ref yn ddarnau,
a thrywanu'r ddraig?
a dŵr y dyfnder mawr?
Onid ti wnaeth ddyfnder y môr
yn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?
ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!
Bydd y llawenydd sy'n para am byth
yn goron ar eu pennau!
Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio
gan hwyl a gorfoledd,
am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
12 “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi!
Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol –
pobl feidrol sydd fel glaswellt?
ARGLWYDD sydd wedi dy greu di?Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfeini'r ddaear!
Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amser,
fod y gormeswr wedi gwylltio
ac yn barod i dy daro di i lawr?
Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?
14 Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys!
Fydd e ddim yn marw yn ei gell nac yn llwgu.
ARGLWYDD dy Dduw disy'n corddi'r môr yn donnau mawr
– yr
ARGLWYDD hollbwerus ydy fy enw i.16 Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu
ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw;
Fi roddodd yr awyr yn ei lle a gwneud y ddaear yn gadarn!
A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”
Rhybudd i Jerwsalem
Saf ar dy draed, Jerwsalem –
ti sydd wedi yfed o'r gwpan
roddodd yr
ARGLWYDD i ti yn ei lid!Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!
18 Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain;
does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.
19 Mae dau beth wedi digwydd i ti:
llanast a dinistr – pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti?
newyn a'r cleddyf – sut alla i dy gysuro di?
Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd,
fel antelop wedi'i ddal mewn rhwyd –
yn feddw gan ddigofaint yr
ARGLWYDD,wedi'u ceryddu gan dy Dduw.
21 Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenus
sydd wedi meddwi, ond ddim ar win!
ARGLWYDD, yn ei ddweud,y Duw sy'n dadlau achos ei bobl:
“Edrych! Dw i wedi cymryd y gwpan feddwol o dy law di,
y gostrel rois i i ti yn fy llid.
Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
23 Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu
a dweud wrthot ti, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti.’
Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod
fel stryd i bobl ei sathru.”