Roedd Eseia yn proffwydo o tua 740 i 700 C.C. Roedd yn amlwg yn dod o deulu dylanwadol, gan ei fod yn mynd yn ôl ac ymlaen i balas y brenin yn Jerwsalem. Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd mewn gweledigaeth ryfeddol pan oedd yn y deml (Eseia 6). Roedd yn cyhoeddi barn Duw ar Jerwsalem a Jwda am eu pechod, a daeth ei broffwydoliaethau yn wir ganrif yn ddiweddarach pan wnaeth byddin Babilon goncro’r wlad a dinistrio Jerwsalem. Ond mae yma hefyd broffwydoliaethau rhyfeddol o obaith. Mae rhai pobl yn galw Eseia “y bumed efengyl” gan fod rhai adrannau o’r broffwydoliaeth yn amlwg wedi eu cyflawni yng ngenedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu saith canrif yn ddiweddarach. Mae rhan olaf y llyfr yn broffwydoliaethau am Dduw yn adfer Israel, yn achub ei bobl, ac yn sefydlu teyrnas dragwyddol.
ESEIA 56
Pobl o bob gwlad yn perthyn i Dduw
1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg!
Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.
2 Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn,
a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth –
y rhai sy'n cadw'r Saboth, heb ei wneud yn aflan,
ac yn stopio'u hunain rhag gwneud drwg.
3 Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r
ARGLWYDD ddim dweud:‘Mae'r
ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl.’A ddylai'r eunuch Ref ddim dweud,
‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’”
4 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau
– sy'n dewis gwneud beth dw i eisiau
ac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau:
rhywbeth gwell na meibion a merched,
a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.
6 Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo
i wasanaethu'r
ARGLWYDD, ei garu,a dod yn weision iddo –
pawb sy'n cadw'r Saboth heb ei wneud yn aflan,
ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
7 Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig Ref
i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi.
Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi
ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i;
achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw
yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”
8 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi'u casglu.”Duw yn addo cosbi arweinwyr drwg y wlad
9 “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwyllt!
Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!
10 Mae'r gwylwyr Ref i gyd yn ddall, ac yn deall dim.
Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth –
yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.
11 Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus
sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon;
bugeiliaid sy'n deall dim!
Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun,
ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.
Gadewch i ni feddwi ar gwrw!
Cawn wneud yr un fath yfory –
bydd hyd yn oed yn well!’