1 Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy'n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a'i helpu i droi'n ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth.
2 Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed – dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn.
3 Os dych chi'n meddwl eich bod chi'n rhywun, dych chi'n twyllo'ch hunain – dych chi'n neb mewn gwirionedd.
4 Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi'i wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd.
5 Dŷn ni'n gyfrifol am beth dŷn ni'n hunain wedi'i wneud.
6 Dylai'r rhai sy'n cael eu dysgu am neges Duw dalu i'w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e.
7 Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau.
8 Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd.
9 Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith.
10 Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr.
Dim y ddefod o enwaediad ond creadigaeth newydd
11 Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i!
12 Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi'i wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub.
13 Ond dydy'r rhai sydd wedi'u henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd drwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth!
14 “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau.
15 Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi'i newid yn llwyr – eich bod chi'n greadigaeth newydd!
16 Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd!
17 Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu!
18 Frodyr a chwiorydd, dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.
Mae’r llythyr hwn yn canolbwyntio ar y ffaith mai credu bod Iesu wedi bod yn ffyddlon sy’n ein hachub, nid cadw mân reolau’r Gyfraith Iddewig.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy ydy’r awdur? Paul o Darsus, ddaeth i gredu yn y Meseia atgyfodedig ar ôl clywed ei lais yn siarad hefo fo ar y ffordd i Ddamascus. (Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid)
Pryd? Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae rhai yn rhoi’r dyddiad 48 – 49 O.C. i’r llythyr hwn, ar ôl taith genhadol gyntaf Paul i Galatia, pryd sefydlodd Paul eglwysi yn Antioch, Iconium, Lystra a Derbe. Mae pobl eraill yn...