1 Ond roedd palas Solomon wedi cymryd un deg tair o flynyddoedd i'w adeiladu.
2 Galwodd e'n Blas Coedwig Libanus. Roedd yn bedwar deg pedwar metr o hyd, dau ddeg dau metr o led ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd tair Ref rhes o bileri cedrwydd ynddo, ac ar ben y pileri roedd trawstiau o gedrwydd.
3 Wedyn roedd to o gedrwydd uwchben y trawstiau oedd yn gorwedd ar y pedwar deg pum piler (un deg pump ym mhob rhes).
4 Ac roedd yna dri set o dair o ffenestri'n wynebu'i gilydd.
5 Roedd fframiau'r drysau a'r ffenestri'n siâp petryal.
6 Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a chanopi drosto.
7 Yna gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle roedd yn barnu'r bobl (y Neuadd Farn). Roedd hi'n goed cedrwydd i gyd o'r llawr i'r to.
8 Roedd y tŷ lle roedd Solomon yn byw yr ochr draw i iard oedd tu cefn i'r Neuadd yma, ac wedi'i adeiladu i gynllun tebyg. Roedd e hefyd wedi adeiladu palas arall tebyg i'w wraig, sef merch y Pharo. Ref9 Roedd yr adeiladau i gyd wedi'u codi'n gyfan gwbl gyda'r cerrig gorau, oedd wedi'u naddu i'w maint a'u llyfnhau wedyn gyda llif. Ac roedd yr iard fawr y tu allan yr un fath.
10 Roedd y sylfeini wedi'u gwneud o gerrig anferth drudfawr, rhai yn mesur pedwar metr a hanner, a rhai eraill yn dri metr a hanner.
11 Ar y sylfeini hynny roedd popeth wedi'i adeiladu gyda'r cerrig gorau, pob un wedi'i naddu i'r maint cywir, a gyda choed cedrwydd.
12 O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi'i hadeiladu gyda thair rhes o gerrig wedi'u naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a chyntedd Teml yr ARGLWYDD.
Gwaith Hiram y crefftwr pres
13 Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o'r enw Hiram.
14 Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o'i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo.
Y ddau biler pres
(2 Cronicl 3:15-17)
15 Hiram wnaeth y ddau biler pres – oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws.
16 Yna gwnaeth gapiau i'w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi'i gastio, dros ddau fetr o uchder.
17 Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi'u plethu o gwmpas y capiau,
18 a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi'u gorchuddio.
19 Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron dau fetr o uchder.
20 Ar dop y ddau biler, uwchben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi'u plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas.
21 Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachîn a'r un ar y chwith yn Boas.
22 Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen.
"Y Môr"
(2 Cronicl 4:2-5)
23 Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi'i wneud o bres wedi'i gastio, ac yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch.
24 O gwmpas ‛Y Môr‛, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach siâp ffrwyth cicaion, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner.
25 Roedd ‛Y Môr‛ wedi'i osod ar gefn un deg dau o ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn.
26 Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua pedwar deg pum mil litr o ddŵr.
Y trolïau pres
27 Gwnaeth Hiram ddeg troli ddŵr o bres hefyd. Roedd pob un yn ddau fetr o hyd, yn ddau o led a bron yn fetr a hanner o uchder.
28 Dyma gynllun y trolïau: roedd ganddyn nhw fframiau yn dal paneli ar yr ochr.
29 Roedd y paneli wedi'u haddurno gyda lluniau o lewod, ychen a cherwbiaid. Ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen, roedd patrymau wedi'u plethu.
30 Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i'r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o'r troli ac wedi'u haddurno gyda phlethiadau.
31 Tu mewn i'r troli roedd ffrâm crwn, pedwar deg pump centimetr o ddyfnder, i ddal y ddysgl. Roedd yn gylch saith deg centimetr ar draws. O gwmpas y geg roedd border o addurniadau. Roedd y paneli'n sgwâr ac nid crwn.
32 Roedd pedair olwyn o dan y paneli, ac roedd soced i ddal echel pob olwyn yn sownd yn y ffrâm. Saith deg centimetr oedd uchder yr olwynion.
33 Roedd yr olwynion wedi'u gwneud fel olwynion cerbyd rhyfel. Roedd yr echel, yr ymyl, y sbôcs a'r both i gyd o fetel wedi'i gastio.
34 Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi'u gwneud yn rhan o'r ffrâm.
35 Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo.
36 Roedd wedi cerfio cerwbiaid, llewod a choed palmwydd ar y paneli roedd y cylchoedd yn sownd iddyn nhw. Roedd y rhain wedi'u cerfio ble bynnag roedd lle iddyn nhw, ac o'u cwmpas nhw roedd patrymau wedi'u plethu.
37 Roedd y deg troli dŵr yr un fath. Roedd wedi defnyddio'r un mowld. Roedd pob un yr un maint a'r un siâp.
38 Yna dyma fe'n gwneud deg dysgl bres. Roedd pob dysgl yn ddau fetr o led ac yn dal wyth gant wyth deg litr. Roedd un ddysgl ar gyfer pob un o'r deg troli.
39 Dyma fe'n gosod pum troli ar ochr y de yn y deml, a phump ar ochr y gogledd. Roedd ‛Y Môr‛ yn y gornel oedd i'r de-ddwyrain o'r deml.
40 Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a phowlenni. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi'i roi iddo i'w wneud ar deml yr ARGLWYDD.
Rhestr o'r eitemau wnaeth e i'r Deml
(2 Cronicl 4:11—5:1)
41 Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi'u plethu i fynd dros y capiau,
42 pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi'u plethu ar y capiau ar ben y pileri.
43 Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,
44 y basn anferth oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛, gyda'r un deg dau o ychen oddi tano,
45 a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a phowlenni taenellu. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi'u gwneud o bres gloyw.
46 Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen.
47 Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.
48 Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD,
49 y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi'u gwneud o aur.
50 Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi'u gwneud o aur hefyd.
51 Wedi i'r Brenin Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi'u cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml yr ARGLWYDD.
Mae 1 Brenhinoedd yn adrodd hanes y cyfnod rhwng tua 970 a 850 C.C. Mae’n dechrau gyda hanes Dafydd, sydd ar fin marw, yn dweud mai Solomon fyddai’n frenin ar ei ôl. Mae’n disgrifio teyrnasiad Solomon, ei ddoethineb a’i gyfoeth; a’i hanes yn adeiladu’r deml yn Jerwsalem. Ond trodd ei obsesiwn gyda merched yn gwymp – roedd ganddo saith gant o wragedd, a trodd Solomon i addoli eilun-dduwiau llawer ohonyn nhw.
Ar ôl i Solomon farw dyma ffolineb ei fab Rehoboam yn arwain at rannu’r wlad yn ddwy, gyda’r deg llwyth gogleddol yn ffurfio’n wlad annibynol gyda Jeroboam (un o swyddogion Solomon) yn frenin arnyn nhw. Ond dechreuodd pethau’n wael gyda Jeroboam yn gwneud delwau aur o ddau darw ifanc i gadw ei bobl rhag mynd i Jerwsalem i addoli.
Roedd olyniaeth o frenhinoedd drwg ar wlad Israel (llwythau’r gogledd), a mwyafrif brenhinoedd Jwda (yn y de) yn arweinwyr gwael hefyd, er fod eithriadau o bryd i’w gilydd. Un o’r gwaethaf oedd Ahab gyda’i wraig Jesebel wnaeth droi bobl i addoli Baal. Cawn hanes y proffwyd Elias yn herio’r cannoedd o broffwydi Baal ar Fynydd Carmel.