Mae 2 Samuel yn agor gyda hanes Dafydd yn clywed fod y brenin Saul a’i fab Jonathan (ffrind gorau Dafydd) wedi marw mewn brwydr yn erbyn y Philistiaid. Mae Dafydd yn cael ei wneud yn frenin ar lwyth Jwda yn y de gyntaf, yna saith mlynedd wedyn (ar ôl i Ish-bosheth, mab Saul, farw) mae’n cael ei wneud yn frenin ar lwythau Israel i gyd. Mae’n concro Jerwsalem a’i gwneud yn brifddinas y genedl unedig. Cawn hanesion ei lwyddiannau milwrol, ond yna mae Dafydd yn godiebu gyda gwraig o’r enw Bathseba a lladd ei gŵr, ac ar ôl hynny mae’r teulu’n dechrau chwalu. Mae un o feibion Dafydd yn cipio’r frenhiniaeth oddi ar ei dad am gyfnod. Ond mae’r llyfr yn cloi gyda Dafydd yn ôl yn frenin yn Jerwsalem ac yn gorfod delio gyda gwrthryfel arall. Mae’n gwneud y camgymeriad o gyfrif ei filwyr (brolio ei rym milwrol yn lle trystio Duw), ac yn cael ei gosbi. Mae pla yn taro’r wlad, ond yn cael ei rhwystro pan mae Dafydd yn codi allor ar y safle lle byddai’r deml yn cael ei chodi maes o law.
2 SAMUEL 7
Addewid yr ARGLWYDD i Dafydd
(1 Cronicl 17:1-15)
1 Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch i'r wlad, ac roedd y Brenin Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas. 2 A dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch Duw yn dal mewn pabell.” 3 A dyma Nathan yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.” 4 Ond y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Nathan, 5 “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi? 6 Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o le i le mewn pabell. 7 Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r rhai wnes i eu penodi i ofalu am Ref lwythau Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’ 8 “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. 9 Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog drwy'r byd i gyd. 10 Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen, 11 pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae'r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!12 Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,
bydda i'n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti.
A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.
13 Bydd e'n adeiladu teml i'm anrhydeddu i;
a bydda i'n gwneud yn siŵr y bydd e'n teyrnasu am byth.
14 Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.
Pan fydd e'n gwneud drwg
bydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi.
15 Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo,
yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di.
16 Bydd dy deulu di yn teyrnasu o mlaen i am byth.
Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’”
17 Felly dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.Gweddi Dafydd
(1 Cronicl 17:16-27)
18 Yna dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD, pwy ydw i? Dw i'n neb, na'm teulu chwaith. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! 19 Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma'r ffordd wyt ti'n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD? 20 Beth alla i ddweud? Ti'n gwybod sut un ydy dy was, fy Meistr, ARGLWYDD. 21 Am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma a dweud wrtho i amdanyn nhw. 22 “O, Feistr, ARGLWYDD, rwyt ti mor fawr! Does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall yn bod heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! 23 A phwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear – yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw. 24 Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. 25 Felly, ARGLWYDD Dduw, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel rwyt ti wedi addo. 26 Wedyn byddi'n enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig, 27 am dy fod ti, yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo fel hyn arnat ti. 28 Nawr, ARGLWYDD, fy meistr, ti ydy'r Duw go iawn, ac mae dy eiriau di'n wir. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i mi. 29 Felly, plîs bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda ti am byth. Meistr, ARGLWYDD, am mai ti sy'n bendithio, bydd dy fendith yn aros ar fy llinach i am byth.”