1 Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a phopeth arall roedd wedi bod eisiau'i wneud.
2 A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon am yr ail dro, fel roedd wedi gwneud yn Gibeon.Croes3 A dyma fe'n dweud, “Dw i wedi clywed dy weddïau a'r cwbl roeddet ti'n gofyn i mi ei wneud. A dw wedi cysegru'r deml yma rwyt ti wedi'i hadeiladu yn lle i mi fy hun am byth. Bydda i yna bob amser.
4 Dw i eisiau i ti fyw yn onest ac yn deg fel dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi'u rhoi.
5 Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu ar Israel am byth. Dyna wnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd ar orsedd Israel am byth.’
6 Ond os byddi di neu dy blant yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi'u rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,
7 yna bydda i'n gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi'i roi iddyn nhw. A bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. Ac wedyn bydd Israel yn destun sbort ac yn jôc i bawb.
8 Bydd y deml yma yn bentwr o gerrig. Bydd pawb sy'n mynd heibio yn chwibanu mewn rhyfeddod ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’
9 A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD eu Duw, yr un ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”
Pethau eraill wnaeth Solomon
(2 Cronicl 8:1-18)
10 Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau codi'r ddau adeilad – teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol.
11 A dyma'r Brenin Solomon yn cynnig dau ddeg o bentrefi yn Galilea i Hiram, brenin Tyrus, am fod Hiram wedi rhoi iddo goed cedrwydd a choed pinwydd a hynny o aur oedd Solomon eisiau.
12 Ond pan aeth Hiram i weld y trefi roedd Solomon wedi'u rhoi iddo, doedd e ddim yn hapus.
13 Dyma fe'n dweud, “Beth ydy'r trefi diwerth yma rwyt ti wedi'u rhoi i mi, frawd?” A dyma fe'n galw'r ardal yn Wlad Cabwl – sef ‛da i ddim‛. A dyna mae'r ardal yn cael ei galw hyd heddiw.
14 (Roedd Hiram wedi rhoi pedair tunnell o aur i Solomon.)
15 Dyma'r manylion am y gweithlu gorfodol wnaeth Solomon ei godi – i adeiladu teml yr ARGLWYDD, ei balas, y terasau a waliau Jerwsalem, a hefyd caerau amddiffynnol Chatsor, Megido a Geser.
16 (Roedd y Pharo, brenin yr Aifft, wedi concro dinas Geser. Roedd wedi'i llosgi'n ulw a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yno. Yna roedd wedi'i rhoi yn anrheg priodas i'w ferch, gwraig Solomon. Ref17 Felly dyma Solomon yn ailadeiladu Geser.) Hefyd Beth-choron Isaf,
18 Baalath, a Tamar yn yr anialwch.
19 Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.
20 Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid – Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Roedden nhw'n gorfod gweithio heb dâl i Solomon.
21 (Roedden nhw'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw.
22 Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei weision, ei swyddogion, ei gerbydwyr, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion.
23 Ac roedd yna bum cant pum deg ohonyn nhw yn arolygu prosiectau adeiladu Solomon a gwneud yn siŵr fod y gweithwyr yn gwneud eu gwaith.
24 Ar ôl i ferch y Pharo symud i fyw o ddinas Dafydd i'r palas roedd Solomon wedi'i adeiladu iddi, dyma Solomon yn adeiladu'r terasau.
25 Dair gwaith y flwyddyn roedd Solomon yn aberthu anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi ar yr allor roedd wedi'i hadeiladu, yn cyflwyno offrymau o rawn i'r ARGLWYDD ac yn llosgi arogldarth gyda nhw. Roedd wedi gorffen y gwaith o adeiladu'r deml.
26 Dyma Solomon hefyd yn adeiladu llynges iddo'i hun yn Etsion-geber, sy'n agos i Elat ar lan y Môr Coch Ref yng ngwlad Edom.
27 A dyma Hiram yn anfon rhai o'i forwyr profiadol e i fynd gyda gweision Solomon yn y llongau.
28 A dyma nhw'n hwylio i Offir a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.
Mae 1 Brenhinoedd yn adrodd hanes y cyfnod rhwng tua 970 a 850 C.C. Mae’n dechrau gyda hanes Dafydd, sydd ar fin marw, yn dweud mai Solomon fyddai’n frenin ar ei ôl. Mae’n disgrifio teyrnasiad Solomon, ei ddoethineb a’i gyfoeth; a’i hanes yn adeiladu’r deml yn Jerwsalem. Ond trodd ei obsesiwn gyda merched yn gwymp – roedd ganddo saith gant o wragedd, a trodd Solomon i addoli eilun-dduwiau llawer ohonyn nhw.
Ar ôl i Solomon farw dyma ffolineb ei fab Rehoboam yn arwain at rannu’r wlad yn ddwy, gyda’r deg llwyth gogleddol yn ffurfio’n wlad annibynol gyda Jeroboam (un o swyddogion Solomon) yn frenin arnyn nhw. Ond dechreuodd pethau’n wael gyda Jeroboam yn gwneud delwau aur o ddau darw ifanc i gadw ei bobl rhag mynd i Jerwsalem i addoli.
Roedd olyniaeth o frenhinoedd drwg ar wlad Israel (llwythau’r gogledd), a mwyafrif brenhinoedd Jwda (yn y de) yn arweinwyr gwael hefyd, er fod eithriadau o bryd i’w gilydd. Un o’r gwaethaf oedd Ahab gyda’i wraig Jesebel wnaeth droi bobl i addoli Baal. Cawn hanes y proffwyd Elias yn herio’r cannoedd o broffwydi Baal ar Fynydd Carmel.