Roedd Eseia yn proffwydo o tua 740 i 700 C.C. Roedd yn amlwg yn dod o deulu dylanwadol, gan ei fod yn mynd yn ôl ac ymlaen i balas y brenin yn Jerwsalem. Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd mewn gweledigaeth ryfeddol pan oedd yn y deml (Eseia 6). Roedd yn cyhoeddi barn Duw ar Jerwsalem a Jwda am eu pechod, a daeth ei broffwydoliaethau yn wir ganrif yn ddiweddarach pan wnaeth byddin Babilon goncro’r wlad a dinistrio Jerwsalem. Ond mae yma hefyd broffwydoliaethau rhyfeddol o obaith. Mae rhai pobl yn galw Eseia “y bumed efengyl” gan fod rhai adrannau o’r broffwydoliaeth yn amlwg wedi eu cyflawni yng ngenedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu saith canrif yn ddiweddarach. Mae rhan olaf y llyfr yn broffwydoliaethau am Dduw yn adfer Israel, yn achub ei bobl, ac yn sefydlu teyrnas dragwyddol.
ESEIA 9
1 Ond fydd y tywyllwch ddim yn para
i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng!
Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon
a thir Nafftali eu cywilyddio;
ond yn y dyfodol bydd Duw
yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd,
ar Ffordd y Môr,
a'r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen.
Y rhyfel drosodd
2 Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch
wedi gweld golau llachar.
Mae golau wedi gwawrio
ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.
a'i gwneud yn hapus iawn;
maen nhw'n dathlu o dy flaen di
fel ffermwyr adeg y cynhaeaf,
neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.
4 Achos rwyt ti wedi torri'r iau
oedd yn faich arnyn nhw,
a'r ffon oedd yn curo'u cefnau nhw
– sef gwialen y meistr gwaith –
fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian. Ref
5 Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd,
a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed,
yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.
6 Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni,
mab wedi cael ei roi i ni.
Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.
A bydd yn cael ei alw yn
Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,
Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.
7 Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu,
a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw
i orsedd Dafydd a'i deyrnas.
Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau
a theyrnasu'n gyfiawn ac yn deg
o hyn allan, ac am byth.
Mae'r
ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.
Duw yn cosbi Israel
8 Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel. 9 Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim Ref a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Roedden nhw'n falch ac yn ystyfnig, ac yn honni:10 “Mae'r blociau pridd wedi syrthio,
ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd!
Mae'r coed sycamor wedi'u torri i lawr,
ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”
11 Yna, gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi.Roedd e wedi arfogi ei gelynion –
12 daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin;
roedd eu cegau'n llydan agored,
a dyma nhw'n llyncu tir Israel.
Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,
roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
13 Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôl
at yr un wnaeth eu taro nhw;
dŷn nhw ddim wedi ceisio'r
ARGLWYDD hollbwerus. ARGLWYDD yn torripen a chynffon Israel,
y gangen balmwydd a'r frwynen
ar yr un diwrnod.
15 Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen;
y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.
16 Mae'r arweinwyr wedi camarwain,
a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.
ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc;dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon.
Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg;
maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl.
Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,
roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
18 Mae drygioni yn llosgi fel tân,
ac yn dinistrio'r drain a'r mieri;
mae'n llosgi drwy ddrysni'r coed
nes bod y mwg yn codi'n golofnau.
ARGLWYDD hollbwerus wedi digio,mae'r wlad yn llosgi.
Mae'r bobl fel tanwydd,
a does neb yn poeni am neb arall.
20 Maen nhw'n torri cig fan yma,
ond yn dal i newynu;
maen nhw'n bwyta fan acw
ond ddim yn cael digon.
Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd –
21 Manasse'n ymosod ar Effraim
ac Effraim ar Manasse,
a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda!
Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,
Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.