Pennod 9
1 Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ;
ac mae wedi naddu saith colofn iddo.
2 Mae hi wedi paratoi gwledd,
cymysgu'r gwin,
a gosod y bwrdd.
3 Mae hi wedi anfon ei morynion allan
i alw ar bobl drwy'r dre.
4 Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,
“Dewch yma, chi bobl wirion!
5 Dewch i fwyta gyda mi,
ac yfed y gwin dw i wedi ei gymysgu.
6 Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw;
dechreuwch gerdded ffordd gall.”
7 Ceisia gywiro rhywun hunan-dybus a cei lond ceg!
Cerydda bobl ddrwg a byddi'n cael dy gam-drin.
8 Cerydda rywun hunan-dybus, a bydd yn dy gasáu di;
ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.
9 Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach;
dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.
10 Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth,
ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.
11 Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir;
byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol.
12 Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti;
ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau.
13 Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn un wyllt.
Mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.
14 Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,
neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.
15 Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibio,
ac yn meindio eu busnes eu hunain.
16 Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,
“Dewch yma, chi bobl wirion!
17 Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys;
a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”
18 Ond dyn nhw ddim yn sylweddoli mai byd yr ysbrydion sydd y ffordd yna,
a bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad yn gwledda yn y bedd!
I'r pen