SECHAREIA 9
Duw yn barnu a bendithio cymdogion Israel
1 Y neges roddodd yr
ARGLWYDD
am ardal Chadrach,
yn arbennig tref Damascus.
(Mae llygad yr
ARGLWYDD ar y ddynoliaeth
fel mae ar lwythau Israel i gyd.)
2 Ac am Chamath, sy'n ffinio gyda Damascus,
a Tyrus a Sidon Ref hefyd,
sy'n meddwl ei bod mor glyfar.
3 Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf
ac mor gyfoethogCroes – mae wedi pentyrru
arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd!
4 Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl,
ac yn suddo ei llongau yn y môr.
Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi'n ulw!
5 Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn.
Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn;
ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr.
Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd,
a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.
6 A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod. Ref
Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid!
7 Yna wnân nhw byth eto
fwyta dim gyda gwaed ynddo,Croes
na chig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau.
Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia
yn dod i gredu yn ein Duw –
byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda.
A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid. Ref
8 Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml,
i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod.
Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl
i'w gormesu nhw byth eto.
Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.Croes
Y brenin sydd i ddod
9 Dathlwch bobl Seion!
Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem!
Edrych! Mae dy frenin yn dod.
Mae e'n gyfiawn ac yn achub;
Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn,
ie, ar ebol asen.
10 Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel, Ref
a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem.
Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio!
Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd.Croes
Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr,
ac o afon Ewffrates i ben draw'r byd!Croes
11 Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad
rhyngon ni, wedi'i selio â gwaed Ref –
dw i'n mynd i ryddhau eich carcharorion
o'r pydew oedd heb ddŵr ynddo.
12 Dewch adre i'r gaer ddiogel,
chi garcharorion – mae gobaith!
Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gael
popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!
13 Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu,
ac Israel Ref ydy'r saeth.
Bydda i'n codi dy bobl di, Seion,
yn erbyn gwlad Groeg.
Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr
yn fy llaw.
14 Yna bydd yr
ARGLWYDD i'w weld
uwchben ei bobl,
a'i saeth yn tanio fel mellten.
Bydd y Meistr, yr
ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd,
Ref
ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.
15 Bydd yr
ARGLWYDD hollbwerus
yn amddiffyn ei bobl.
Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl,
ac yn gwledda a dathlu fel meddwon.
Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth
yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.
16 Bryd hynny, bydd yr
ARGLWYDD eu Duw
yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl.
Byddan nhw'n disgleirio ar ei dir
fel cerrig gwerthfawr mewn coron –
17 Mor werthfawr! Mor hardd!
Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud
y dynion a'r merched ifanc yn gryf.
I'r pen