1 Dyma enwau meibion Israel, aeth i'r Aifft gyda'u tad Jacob a'u teuluoedd:
2 Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,
3 Issachar, Sabulon a Benjamin,
4 Dan a Nafftali, Gad ac Asher.
5 Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd. (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft.)
6 Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw.
7 Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman – yn llenwi'r wlad!
8 Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.
9 A dyma fe'n dweud wrth ei bobl, “Gwrandwch. Mae yna ormod o Israeliaid yn y wlad yma!
10 Rhaid i ni feddwl beth i'w wneud. Os bydd y niferoedd yn dal i dyfu, a rhyfel yn torri allan, byddan nhw'n helpu'n gelynion i ymladd yn ein herbyn ni. Gallen nhw hyd yn oed ddianc o'r wlad.”
11 Felly dyma'r Eifftiaid yn cam-drin pobl Israel a'u gorfodi i weithio am ddim iddyn nhw, a gosod meistri gwaith i gadw trefn arnyn nhw. A dyma nhw'n adeiladu Pithom a Rameses yn ganolfannau storfeydd i'r Pharo.
12 Ond er bod yr Eifftiaid yn eu gweithio nhw mor galed, roedd eu niferoedd yn dal i gynyddu a mynd ar wasgar. Felly dechreuodd yr Eifftiaid eu hofni a'u casáu nhw go iawn,
13 a'u cam-drin nhw fwy fyth.
14 Roedd bywyd yn chwerw go iawn iddyn nhw, wrth i'r Eifftiaid wneud iddyn nhw weithio mor galed. Roedden nhw'n gwneud brics a chymysgu morter, ac yn slafio oriau hir yn y caeau hefyd.
15 Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw,
16 “Pan fyddwch chi'n gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd e'n syth; ond cewch adael i'r merched fyw.”
17 Ond am fod y bydwragedd yn parchu Duw, wnaethon nhw ddim beth roedd brenin yr Aifft wedi'i orchymyn iddyn nhw. Dyma nhw'n cadw'r bechgyn yn fyw.
18 A dyma frenin yr Aifft yn eu galw nhw ato eto, a gofyn, “Beth dych chi'n wneud? Pam dych chi'n gadael i'r bechgyn fyw?”
19 A dyma'r bydwragedd yn ateb, “Dydy'r gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft – maen nhw'n gryfion, ac mae'r plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!”
20 Felly buodd Duw'n garedig at y bydwragedd. Roedd niferoedd pobl Israel yn dal i dyfu; roedden nhw'n mynd yn gryfach ac yn gryfach.
21 Am fod y bydwragedd wedi parchu Duw, rhoddodd Duw deuluoedd iddyn nhw hefyd.
22 Yna dyma'r Pharo yn rhoi gorchymyn i'w bobl: “Mae pob bachgen sy'n cael ei eni i'r Hebreaid i gael ei daflu i afon Nîl, ond cewch adael i'r merched fyw.”
Mae Exodus yn adrodd hanes rhywbeth ddigwyddodd 400 mlynedd ar ôl hanes Joseff. Roedd pobl Dduw bellach yn gaethweision ac yn cael eu gorthrymu gan yr Eifftiaid. Cawn hanes y ffordd ryfeddol roedd Duw ar waith ym mywyd Moses, o’i blentyndod (pan gafodd ei fabwysiadu gan ferch y Pharo) i’w alwad i arwain ei bobl i ryddid. Mae Duw yn taro’r Aifft gyda phlâu, ac yn defnyddio Moses i arwain ei bobl drwy’r Môr Coch at fynydd Sinai. Yno mae Duw yn rhoi’r Deg Gorchymyn a chyfarwyddiadau eraill i’w bobl – sut ddylen nhw fyw a sut i’w addoli. Er eu bod nhw’n bobl anufudd ac yn cwyno yn ei erbyn, mae Duw yn eu harwain drwy’r anialwch ac yn rhoi bwyd i’w fwyta a dŵr i’w yfed iddyn nhw.

Pwy? Pryd? Pam?
Pwy?
Mae llyfrau’r Hen Destament yn hen, hen iawn, ac mae’n anodd iawn dweud yn bendant pwy ydy awdur y llyfrau. Ond mae traddodiadau Cristnogol ac Iddewig yn enwi Moses. Mae yna gyfeiriadau yn y llyfr at Moses yn ysgrifennu e.e. 17:14, 24:/4. Mae’r Testament Newydd yn cymryd mai Moses oedd yn gyfrifol am y llyfr e.e. Marc 7.10. Wrth ddarllen y llyfr mae’n hawdd dychmygu mai atgofion personol Moses sydd ynddo.