1 Roedd Solomon fab Dafydd wedi sefydlu ei awdurdod dros ei deyrnas, achos roedd yr ARGLWYDD ei Dduw yn ei helpu ac wedi'i wneud yn frenin pwerus iawn.
2 Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel i gyd at ei gilydd – arweinwyr y fyddin (sef capteiniaid ar unedau o fil ac o gant), y barnwyr, a holl arweinwyr Israel oedd yn benaethiaid teuluoedd.
3 A dyma Solomon a'r bobl i gyd yn mynd i addoli wrth yr allor leol yn Gibeon, gan mai dyna lle roedd pabell presenoldeb Duw – yr un roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi'i gwneud yn yr anialwch.
4 (Roedd Dafydd wedi dod ag Arch Duw o Ciriath-iearîm i Jerwsalem, sef y lle roedd wedi'i baratoi iddi, ac wedi codi pabell iddi yno.
5 Ond roedd yr allor bres wnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr Hur, o flaen Tabernacl yr ARGLWYDD.) Dyna lle'r aethon nhw i geisio Duw.
6 A dyma Solomon yn mynd at yr allor bres o flaen yr ARGLWYDD, ac offrymu mil o aberthau i'w llosgi arni.
7 Y noson honno dyma Duw yn dod at Solomon a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?”
8 A dyma Solomon yn ateb, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad, ac rwyt wedi fy ngwneud i yn frenin yn ei le.
9 O, ARGLWYDD Dduw, gwna i'r addewid honno wnest ti i Dafydd fy nhad ddod yn wir. Ti wedi fy ngwneud i'n frenin ar gymaint o bobl ag sydd o lwch ar y ddaear.
10 Rho i mi'r ddoethineb a'r wybodaeth sydd ei angen i lywodraethu'r bobl yma'n iawn. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?”
11 A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn – a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir –
12 dw i'n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.”
13 Felly dyma Solomon yn gadael pabell presenoldeb Duw oedd wrth yr allor yn Gibeon, a mynd yn ôl i Jerwsalem, lle roedd yn teyrnasu ar Israel.
Cyfoeth Solomon
(1 Brenhinoedd 10:26-29)
14 Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem.
15 Roedd arian ac aur mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
16 Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a Cwe. Ref Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe.
17 Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a chant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.
Mae 2 Cronicl yn adrodd hanes Israel o tua 970 C.C. (pan gafodd Solomon ei wneud yn frenin) hyd tua 530 C.C. (pan gafodd yr Iddewon oedd wedi eu caethgludo i Babilon hawl i fynd yn ôl i Jerwsalem).
Mae Solomon, mab Dafydd, yn adeiladu’r deml ac yn frenin enwog yn rhyngwladol a llwyddiannus iawn. Ond ar ôl iddo farw mae’r wlad yn rhannu’n ddwy. Mae gweddill 2 Cronicl yn canolbwyntio ar hanes gwlad fach Jwda yn y de. Roedd mwyafrif y brenhinoedd yn ddrwg ac yn anufudd i Dduw, ond roedd rhai eithriadau gloyw.
Mae’r bennod olaf yn dweud sut wnaeth Jerwsalem syrthio, er fod Duw wedi rhybuddio’r bobl dro ar ôl tro drwy ei broffwydi. Cafodd y bobl eu caethgludo i Babilon. Ond yna ar y diwedd un cawn Cyrus (brenin Persia) yn cyhoeddi fod pobl Jwda yn rhydd i fynd yn ôl i Jerwsalem i ailadeiladu’r deml.