1 Yn y drydedd flwyddyn Ref pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, Ref yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni.Croes2 A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o'r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon, Ref a'u cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw.Croes3 Dyma'r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill –
4 dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon, Ref a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad.
5 A dyma'r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta'r bwyd a'r gwin gorau, wedi'i baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i'r brenin.
6 Roedd pedwar o'r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia.
7 Ond dyma'r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego. Ref8 Dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am wneud ei hun yn aflan drwy fwyta'r bwyd a'r gwin oedd y brenin am ei roi iddo. Gofynnodd i'r prif swyddog am ganiatâd i beidio bwyta'r bwyd brenhinol.
9 Roedd Duw wedi gwneud i'r swyddog hoffi Daniel a bod yn garedig ato,
10 ond meddai wrtho, “Mae fy meistr y brenin wedi dweud beth dych chi i'w fwyta a'i yfed. Mae arna i ofn beth fyddai'n wneud petaech chi'n edrych yn fwy gwelw a gwan na'r bechgyn eraill yr un oed â chi. Byddech chi'n rhoi fy mywyd i ar y lein!”
11 Ond wedyn dyma Daniel yn siarad â'r swyddog oedd wedi cael ei benodi i ofalu amdano fe, Hananeia, Mishael ac Asareia.
12 “Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr,
13 ac wedyn cei weld sut fyddwn ni'n cymharu gyda'r bechgyn eraill sy'n bwyta'r bwyd brenhinol. Cei benderfynu gwneud beth bynnag wyt ti eisiau wedyn.”
14 Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn cytuno, ac yn eu profi nhw am ddeg diwrnod.
15 Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a'i ffrindiau yn edrych yn well ac yn iachach na'r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta'r bwydydd gorau o gegin y palas.
16 Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dal ati i roi llysiau iddyn nhw yn lle'r bwydydd cyfoethog a'r gwin roedden nhw i fod i'w gael.
17 Rhoddodd Duw allu anarferol i'r pedwar ohonyn nhw i ddysgu am lenyddiaeth a phopeth arall. Roedd gan Daniel yn arbennig y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion.
18 Ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddiant dyma'r prif swyddog yn mynd â nhw o flaen y Brenin Nebwchadnesar.
19 Dyma'r brenin yn eu cyfweld nhw, a doedd dim un ohonyn nhw cystal â Daniel, Hananeia, Mishael ac Asareia. Felly dyma'r pedwar ohonyn nhw'n cael eu penodi i weithio i'r brenin.
20 Beth bynnag oedd y brenin yn eu holi nhw amdano, roedd eu gwybodaeth a'u cyngor doeth ddeg gwaith gwell nag unrhyw ddewin neu swynwr doeth drwy'r Ymerodraeth gyfan.
21 Roedd Daniel yn dal yno y flwyddyn y daeth Cyrus yn frenin. Ref
Mae llyfr Daniel yn son am gyfnod y gaethglud ym Mabilon – o tua 605 hyd 538 C.C. Mae’r llyfr Daniel yn rhannu’n ddau. Mae’r hanner cyntaf yn son am ffyddlondeb Duw a’i ofal am y rhai sy’n credu ynddo, hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Roedd llwyddiant Daniel yn Babilon yn rhyfeddol – roedd yn dal un o brif swyddi’r Ymerodraeth am dros 60 mlynedd, ond wnaeth o erioed gyfaddawdu ei ffydd. (Roedd Daniel yn hen ŵr yn ei 80au pan gafodd ei daflu i ffau’r llewod.)
Yn ail hanner y llyfr cawn weledigaethau proffwydol Daniel, sy’n edrych ymlaen dros hanes y dyfodol. Gwelodd genhedloedd yn brwydro yn erbyn ei gilydd, a pobl Dduw yn cael eu gwasgu ac yn dioddef yng nghanol y cwbl, hyd nes y byddai Duw ei hun yn eu hachub o’u trafferthion. Gwelodd hefyd y byddai pobloedd y byd i gyd ryw ddydd yn plygu i addoli “mab y dyn” fyddai’n dod ar gymylau’r awyr. Wrth gwrs, 500 mlynedd yn ddiweddarach roedd Iesu yn honni mai fo oedd y “mab y dyn” yma. (Cyn hyn roedd pobl Israel wedi tueddu i gyfyngu Duw i’w bocs eu hunain – eu Duw nhw oedd o, i’w addoli yn y deml yn Jerwsalem. Ond ers dyddiau Abraham, roedd bwriadau Duw yn cofleidio’r byd i gyd.)