Roedd Jeremeia’n proffwydo am 40 mlynedd o tua 626 i 587 C.C. Cafodd ei alw i fod yn broffwyd pan yn fachgen ifanc. Cafodd amser caled iawn – cafodd ei wawdio, ei guro a’i garcharu a bron cael ei ladd am gyhoeddi neges Duw. Roedd Jeremeia ei hun yn stryglo hefyd. Mae’n dadlau, a hyd yn oed yn gwylltio gyda Duw, ac yn dweud y byddai’n well ganddo farw. Doedd ganddo ddim eisiau cyhoeddi neges mor dywyll. Byddai’n well ganddo gau ei geg, ond mae’n dweud fod neges Duw fel tân yn llosgi tu mewn iddo. Roedd yn cyhoeddi fod gwlad Jwda yn mynd i gael ei chosbi am ei phechod. Byddai’r Babiloniaid creulon yn ymosod ar y wlad, a fyddai dim yn eu rhwysto – cytundebau gwleidyddol a help gan yr Aifft, na’u crefydda arwynebol. Ac wrth gwrs, daeth proffwydoliaeth Jeremeia yn wir – mae’r bennod olaf yn disgrifio sut wnaeth byddin Babilon goncro a dinistrio Jerwsalem.
JEREMEIA 1
1. Bydd Duw yn cosbi Jwda
(1:1—12:17)
Cyflwyniad
1 Neges Jeremeia, mab Chilceia, oedd yn offeiriad yn Anathoth Ref (tref ar dir llwyth Benjamin). 2 Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia Ref fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd.Croes 3 Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, Ref mab Joseia, yn frenin,Croes ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia Ref (mab arall Joseia) yn frenin.Croes Yn y pumed mis Ref yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.Duw yn galw Jeremeia i fod yn broffwyd
4 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:5 “Rôn i'n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth,
ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni,
a dy benodi di'n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.”
6 “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i. “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i'n rhy ifanc.” 7 Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb,“Paid dweud, ‘Dw i'n rhy ifanc.’
Byddi di'n mynd i ble dw i'n dy anfon di
ac yn dweud beth dw i'n ddweud wrthot ti.
8 Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r
ARGLWYDD“achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”
9 Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud,“Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di.
10 Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw
a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd.
Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu,
yn dinistrio ac yn bwrw i lawr,
yn adeiladu ac yn plannu.”
Dwy weledigaeth
11 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.” Ref 12 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i'n gwylio Ref i wneud yn siŵr y bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir.” 13 Yna'r ail waith dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” 14 “Ie,” meddai'r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. 15 Edrych, dw i'n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd.”—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“‘Byddan nhw'n gosod eu gorseddau
wrth giatiau Jerwsalem.
Byddan nhw'n ymosod ar y waliau o'i chwmpas,
ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’
16 “Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi'i wneud – sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi'u gwneud gyda'i dwylo eu hunain! 17 “Ond ti, Jeremeia, bydd di'n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i'n ddweud wrthot ti. Paid bod â'u hofn nhw, neu bydda i'n dy ddychryn di o'u blaenau nhw. 18 Ond heddiw dw i'n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi'n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a'i phobl. 19 Byddan nhw'n trio dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai'r ARGLWYDD.