Colosiaid 1
Diolch a gweddi
3 Dyn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dyn ni'n gweddïo drosoch chi. 4 Dyn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i'r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy'n credu. 5 Mae'r ffydd a'r cariad hwnnw'n tarddu o'r gobaith hyderus y byddwch chi'n derbyn y cwbl sydd wedi ei storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o'r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da) 6 ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae'r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy'r byd i gyd, a dyna'n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i'w ddeall yn iawn. 7 Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu'r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni. 8 Mae wedi dweud wrthon ni am y cariad mae'r Ysbryd wedi ei blannu ynoch chi. 9 Ac felly dyn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dyn ni'n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a'ch gwneud chi'n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. 10 Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a'i blesio fe ym mhob ffordd: trwy fyw bywydau sy'n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well. 11 Dyn ni'n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio'r holl rym anhygoel sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi'n gallu dal ati yn amyneddgar, 12 a diolch yn llawen i'r Tad. Fe sydd wedi'ch gwneud chi'n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi ei gadw i'w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. 13 Mae e wedi'n hachub ni o'r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae'n ei garu. 14 Ei Fab sydd wedi'n gollwng ni'n rhydd! Mae wedi maddau'n pechodau ni!
Y Meseia Iesu yn ben
15 Mae'n dangos yn union sut un ydy'r Duw anweledig —
y ‘mab hynaf’ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan.
16 Cafodd popeth ei greu ganddo fe:
popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear,
popeth sydd i'w weld,
a phopeth sy'n anweledig —
y grymoedd a'r pwerau sy'n llywodraethu a rheoli.
Cafodd popeth ei greu ganddo fe,
i'w anrhydeddu e.
17 Roedd yn bodoli o flaen popeth arall,
a fe sy'n dal y cwbl gyda'i gilydd.
18 Fe hefyd ydy'r pen ar y corff, sef yr eglwys;
Fe ydy ei ffynhonnell hi,
a'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw.
Felly mae e'n ben ar y cwbl i gyd.
19 Achos roedd Duw yn ei gyflawnder yn byw ynddo,
20 ac yn cymodi popeth ag e'i hun trwyddo
— pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd.
Daeth â heddwch drwy farw ar y groes.
21 Ydy, mae wedi'ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi eich gwneud chi'n ffrindiau iddo'i hun 22 trwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae'n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn. 23 Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae'r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma'r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. A dyna'r gwaith dw i, Paul, wedi ei gael i'w wneud.
Gwaith caled Paul ar ran yr Eglwys
24 Dw i'n falch o gael dioddef drosoch chi. Dw i'n cyflawni yn fy nghorff i beth o'r dioddef sydd ar ôl — sef ‘gofidiau'r Meseia’ — a hynny er mwyn ei gorff, yr eglwys. 25 Dw i wedi dod yn was iddi am fod Duw wedi rhoi gwaith penodol i mi, i gyhoeddi'r neges yn llawn ac yn effeithiol i chi sydd ddim yn Iddewon. 26 Dyma'r cynllun dirgel gafodd ei gadw o'r golwg am oesoedd a chenedlaethau lawer, ond sydd bellach wedi ei ddangos i bobl Dduw. 27 Mae Duw wedi dewis dangos fod y dirgelwch ffantastig yma ar gyfer pobl o bob cenedl. Y dirgelwch ydy bod y Meseia yn byw ynoch chi; a dyna'r hyder sydd gynnoch chi y cewch chi ran yn y pethau gwych sydd i ddod! 28 Dyn ni'n cyhoeddi'r neges amdano, ac yn rhybuddio a dysgu pawb mor ddoeth ag y gallwn ni. Dyn ni eisiau cyflwyno pawb i Dduw yn ddilynwyr aeddfed i'r Meseia. 29 Dyna pam dw i'n gweithio mor galed gyda'r holl egni mae e'n ei roi i mi.