Colosiaid 4

Rhaid i chi'r meistri fod yn gyfiawn ac yn deg wrth drin eich caethweision. Cofiwch fod gynnoch chithau Feistr yn y nefoedd!

Cyngor pellach

2 Daliwch ati i weddïo drwy'r adeg, gan gadw'ch meddyliau yn effro a bod yn ddiolchgar. 3 A gweddïwch droson ni hefyd, y bydd Duw yn rhoi cyfle i ni rannu'r neges am y Meseia, ac esbonio'r dirgelwch amdano. Dyma pam dw i yn y carchar. 4 Gweddïwch y bydda i'n gwneud y neges yn gwbl glir, fel y dylwn i. 5 Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi'n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i rannu gyda nhw. 6 Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.

Cyfarchion i gloi

7 Cewch wybod fy hanes i gan Tychicus. Mae e'n frawd annwyl iawn, ac yn weithiwr ffyddlon sy'n gwasanaethu'r Arglwydd gyda mi. 8 Dw i'n ei anfon e atoch chi yn unswydd i chi gael gwybod sut rydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi. 9 A dw i wedi anfon Onesimus gydag e, brawd ffyddlon ac annwyl arall sy'n un ohonoch chi. Byddan nhw'n dweud wrthoch chi am y cwbl sy'n digwydd yma. 10 Mae Aristarchus, sydd yn y carchar gyda mi, yn anfon ei gyfarchion atoch chi. Hefyd Marc, cefnder Barnabas. (Mae hyn wedi ei ddweud o'r blaen — os daw Marc atoch, rhowch groeso iddo.) 11 Mae Iesu (yr un sy'n cael ei alw'n Jwstus) yn anfon ei gyfarchion hefyd. Nhw ydy'r unig Gristnogion Iddewig sy'n gweithio gyda mi. Maen nhw'n gweithio gyda mi dros deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi bod yn gysur mawr i mi. 12 Mae Epaffras yn anfon ei gyfarchion — un arall o'ch plith chi sy'n was i'r Meseia Iesu. Mae bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn gofyn i Dduw eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed, ac yn gwbl hyderus eich bod yn gwneud beth mae Duw eisiau. 13 Dw i'n dyst ei fod e'n gweithio'n galed drosoch chi a'r Cristnogion sydd yn Laodicea a Hierapolis. 14 Mae ein ffrind annwyl, doctor Luc, a Demas hefyd, yn anfon eu cyfarchion. 15 Cofiwch fi at y brodyr a'r chwiorydd yn Laodicea, a hefyd at Nymffa a'r eglwys sy'n cyfarfod yn ei thŷ hi. 16 Ar ôl i'r llythyr yma gael ei ddarllen i chi, anfonwch e ymlaen i Laodicea i'w ddarllen i'r gynulleidfa yno. A gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y llythyr anfonais i yno. 17 Dwedwch hyn wrth Archipus: “Gwna'n siŵr dy fod yn gorffen y gwaith mae'r Arglwydd wedi ei roi i ti.” 18 Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun: PAUL. Cofiwch fy mod i yn y carchar. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Iau, July 30, 2015