
Pwy ydy’r awdur?
Paul yr apostol, gafodd dröedigaeth ddramatig ar y ffordd i Ddamascus (Actau 9). Treuliodd ei fywyd yn teithio er mwyn rhannu’r Efengyl. Cychwynnodd Paul eglwysi Cristnogol, ac mae rhai o’r llythyrau ysgrifennodd o at yr eglwysi hyn, ac at bobl fel Timotheus a Titus, yn rhan o’r Testament Newydd. (Os am wybod mwy am Paul, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid). Mae rhai yn amau ai Paul ydy awdur 1 Timotheus. Maen nhw’n gweld yr iaith yn wahanol iawn i lythyrau eraill Paul. Hefyd maen nhw’n credu fod y math o eglwys sy’n cael ei disgrifio yma yn perthyn i gyfnod mwy diweddar. Ond rhaid cofio bod Paul yn arfer defnyddio amanuensis (ysgrifennydd) ac mae’r llythyr yma yn darlunio perthynas mor agos rhwng yr awdur a Timotheus, mae’n anodd iawn credu fod rhywun arall wedi ei ysgrifennu.
Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant, ond mae rhai yn credu bod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr yn fuan ar ôl y digwyddiadau ar ddiwedd llyfr yr Actau, lle mae Paul mewn carchar yn Rhufain yn disgwyl ei achos llys o flaen Cesar. Dyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd i Paul wedyn. Mae ysgolheigion yn meddwl ei fod wedi cael ei ryddhau, ac wedi parhau gyda’i waith cenhadol, ac mai dyna pryd ysgrifennodd o’r llythyr hwn, tua 63-65 O.C.
Pam?
Mae’r llythyrau at Timotheus, a’r llythyr at Titus yn cael eu galw yn “llythyrau bugeiliol”, sef llythyrau i helpu’r bobl oedd yn arwain yr eglwysi ifanc i wneud eu gwaith. Dyn ifanc o Lystra (De Twrci heddiw) oedd Timotheus. Roedd ei dad yn Roegwr a’i fam yn Iddewes dda. Dysgodd ei fam yr Ysgrythurau Iddewig i Timotheus. Mae’n bosib ei fod wedi dod i gredu yn Iesu trwy bregethu Paul – mae’n dweud “rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd” (1 Tim. 1:2). Penderfynodd Paul fynd â Timotheus ar ei deithiau cenhadol a daeth y dyn ifanc yn ffrind da iddo ac yn bartner gwaith ffyddlon. Dyma’r eglwys yn comisiynu Timotheus i’r gwaith ( 1 Tim 4:4), ac yn Actau 16:3 dyn ni’n dysgu ei fod o wedi derbyn enwaediad er mwyn cael gweithio gydag Iddewon. Aeth i efengylu hefo Paul yn Macedonia, Achaia, ac Effesus. Yna cafodd y gwaith o arwain eglwys Effesus. Yno roedd yn gyfrifol am arolygu’r Cristnogion lleol, a dewis a hyfforddi arweinwyr eglwysig newydd. Nid gwaith hawdd oedd hyn i berson ifanc fel Timotheus oedd yn gymeriad digon nerfus, ac yn dioddef o anhwylder ar y stumog (1 Tim 5:23).
Roedd Paul yn mynd yn hŷn. Roedd o eisiau pasio ei awdurdod fel apostol ymlaen i arweinwyr iau. Mae’r llythyrau bugeiliol yn sôn am
• rôl arweinydd eglwys
• sut i ddelio hefo problemau yn yr eglwysi
• ymddygiad personol arweinwyr
• sut i ddewis arweinwyr eraill
Mae’r llythyr yn dweud ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio ar brif bwyntiau’r ffydd a dysgu’r gwir. Cofiwch fod rhai athrawon ffals wedi dechrau dysgu heresïau yn yr eglwysi erbyn hyn. Mae’n siwr fod Paul wedi dweud y pethau hyn wrth Timotheus ar lafar yn barod – ond byddai llythyr yn helpu’r arweinydd ifanc dihyder yma. Byddai’n gallu dangos y llythyr, neu ei ddarllen yn yr eglwys a dweud “Dyma mae Paul yn ei ddweud hefyd.”
Catrin Roberts
1 Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol y Meseia Iesu – wedi fy anfon gan y Duw sy’n ein hachub ni, a’r Meseia, yr un mae’n gobaith ni ynddo.
2 Timotheus, rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd:
Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni.
Rhybudd rhag ffug athrawon y Gyfraith
3 Fel y gwnes i pan roeddwn i’n teithio i dalaith Macedonia, dw i’n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy’n dysgu pethau sydd ddim yn wir, 4 yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw’n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu. 5 Y rheswm pam dw i’n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i’w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw’n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn. 6 Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw’n treulio eu hamser yn siarad nonsens! 7 Maen nhw’n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n sôn amdano er eu bod nhw’n siarad mor awdurdodol!
8 Dyn ni’n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi'n cael ei thrin yn iawn. 9 Dyn ni’n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy'n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy’n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy'n lladd eu tadau a'u mamau, llofruddion, 10 pobl sy’n pechu’n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy'n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy’n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i ddysgeidiaeth gywir. 11 Mae dysgeidiaeth felly yn gyson â’r newyddion da sy’n dweud wrthon ni mor wych ydy’r Duw bendigedig! Dyma’r newyddion da mae e wedi rhoi’r cyfrifoldeb i mi ei gyhoeddi.
Haelioni’r Arglwydd at Paul
12 Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy’n rhoi’r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo. 13 Cyn dod yn Gristion roeddwn i’n arfer cablu ei enw; roeddwn i’n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i – doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i’n ei wneud. 14 Roedd yr Arglwydd mor anhygoel o garedig ata i! Des i gredu, a chael fy llenwi â’r cariad sy’n dod oddi wrth y Meseia Iesu.
15 Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu i'r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy'r gwaetha ohonyn nhw. 16 Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i’n esiampl berffaith o'r math o bobl fyddai'n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol. 17 Mae e’n haeddu ei anrhydeddu a'i foli am byth bythoedd! Fe ydy’r Brenin am byth! Fe ydy'r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy’r unig Dduw sy'n bod! Amen!
18 Timotheus, fy mab, dw i’n rhoi siars i ti (yn gyson â beth sydd wedi ei broffwydo amdanat ti): Mae’n bwysig dy fod ti’n ymladd yn dda yn y frwydr. 19 Dal dy afael yn beth rwyt ti'n ei gredu, a chadw dy gydwybod yn lân. Mae rhai wedi dewis peidio gwneud hynny, ac o ganlyniad mae eu ffydd wedi ei dryllio. 20 Mae Hymenaeus ac Alecsander yn enghreifftiau o’r peth. Dw i wedi eu taflu nhw allan o’r eglwys er mwyn iddyn nhw ddysgu peidio cablu.
