beibl.net

  • Beth wyt ti eisiau wneud?

  • Darllen ac Astudio
  • Adnoddau
  • Defnyddiau
  • Cymorth
  • Gwybodaeth
  • Ebost

2 Corinthiaid

Chwilio manwl

Llyfrau Beibl.net

Chwilio manwl

Cymorth astudio



Astudio: Pwy? Pryd? Pam?

Pwy ydy’r awdur?
Paul (Saul o Darsus) gafodd dröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus ac yna wnaeth weithio fel Apostol Iesu yn mynd â’r efengyl yn arbennig at bobl oedd ddim yn Iddewon. Yn ystod y cyfnod hwn roedd pobl yn dweud pwy oedd yn ysgrifennu llythyr ar y dechrau, nid ar y diwedd fel rydyn ni’n gwneud heddiw. Am fwy o wybodaeth am Paul edrychwch ar “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae arbenigwyr yn awgrymu tua 56 O.C. Roedd wedi ysgrifennu un llythyr at y Corinthiaid cyn y llythyr dyn ni’n ei adnabod fel 1 Corinthiaid (gw. 1 Cor 5:9). Roedd y llythyr hwnnw yn eu rhybuddio nhw rhag anfoesoldeb rhywiol (does dim copi ohono ar gael i ni heddiw). Yna ar ôl i Paul glywed adroddiadau gwael am eglwys Corinth, a derbyn llythyr ganddyn nhw yn gofyn cwestiynau am sut i fyw fel Cristnogion, atebodd Paul gyda’r llythyr sy’n cael ei alw yn 1 Corinthiaid yn y Testament Newydd. Felly, 1 Corinthiaid oedd ei ail lythyr atyn nhw. Ar ôl hyn digwyddodd rhywbeth wnaeth i Paul fynd i Gorinth i’w gweld nhw, ac roedd yr ymweliad yn un trist ac anodd (2 Corinthiaid 2:1).
Daeth Paul yn ôl i Effesus ac ysgrifennu llythyr arall (2 Cor 2:4; 7:8) (does dim copi ar gael i ni heddiw) ac anfon Titus i Gorinth gyda’r llythyr hwn. Bu’n rhaid i Paul fynd i Macedonia i gyfarfod hefo Titus er mwyn clywed beth oedd ymateb y Corinthiaid i’r ail lythyr coll hwn. Cafodd o newyddion da. Roedd yr eglwys wedi newid agwedd (2 Cor 2:12; 7:6,7). Roedd Paul yn hapus iawn, achos roedd o’n hoff o’r eglwys hon. Paul oedd wedi cychwyn yr eglwys, ac fel bugail roedd o’n poeni am y bobl. Felly ysgrifennodd o lythyr arall atyn nhw o Facedonia – yr ail lythyr at y Corinthiaid.

Pam?
Mae’r ail lythyr at y Corinthiaid yn llythyr personol iawn, yn dangos consýrn mawr Paul dros yr eglwys yng Nghorinth. Er bod Titus wedi dweud bod y Corinthiaid wedi syrthio ar eu bai, roedd yna rai o fewn yr eglwys yn dweud pethau drwg am gymeriad Paul, a’i awdurdod fel apostol. Oherwydd fod Paul wedi gorfod newid ei gynlluniau, roedd yna bobl yn dweud ei fod o’n annibynadwy. Roedd rhai hefyd yn amau beth oedd Paul wedi ei wneud hefo’r arian gafodd ei gasglu ar gyfer Cristnogion tlawd Jerwsalem. Yn ei lythyr felly, mae Paul yn ateb y cyhuddiadau hyn. Mae’n
• egluro pam newidiodd ei gynlluniau teithio
• amddiffyn ei awdurdod fel apostol
• pwysleisio ei fod wedi byw a bihafio yn anrhydeddus tra roedd yng Nghorinth.
Mae’n gofyn iddyn nhw orffen y casgliad oedd wedi ei gychwyn ganddyn nhw ers blwyddyn, ac yn dweud bod yn rhaid delio hefo’r bobl oedd yn creu helynt yn yr eglwys.

Catrin Roberts

Pennod 4

Trysor mewn llestri pridd

1 Felly gan fod Duw wedi bod mor garedig â rhoi’r gwaith yma’n ein gofal ni, dyn ni ddim yn digalonni. 2 Dyn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dyn ni'n dweud yn blaen beth ydy’r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu'n trystio ni fel rhai sy’n gwbl agored o flaen Duw. 3 Os oes rhai pobl sy’n methu deall y newyddion da dyn ni’n ei gyhoeddi, y bobl sy’n mynd i ddistryw ydy’r rheiny. 4 Y diafol (‘duw’ y byd hwn) sydd wedi dallu’r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy’n dangos i ni yn union sut un ydy Duw. 5 Dyn ni ddim yn siarad amdanon ni'n hunain – dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy’r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu. 6 Ac mae’r Duw ddwedodd, "Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o'r tywyllwch," wedi’n goleuo ni a’n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.
7 Dyma’r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae’n cael ei gario gynnon ni sy’n ddim byd ond llestri pridd – rhywbeth sy’n dangos mai o Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni. 8 Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dyn ni ddim wedi cael ein llethu’n llwyr. Dyn ni'n ansicr weithiau, ond heb anobeithio; 9 yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi’n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro! 10 Wrth ddioddef yn gorfforol dyn ni’n rhannu rhyw wedd ar farwolaeth Iesu, ond mae hynny er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff bregus ni. 11 Dyn ni sy'n fyw mewn peryg bob amser o gael ein lladd fel Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff marwol ni. 12 Rhaid i ni wynebu marwolaeth er mwyn i chi gael bywyd tragwyddol.
13 Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: "Credais, felly dwedais." Yr un ysbryd sy’n ein gyrru ni’n ein blaenau. Dyn ni hefyd wedi credu ac felly’n dweud. 14 Am fod Duw wedi codi’r Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, dyn ni’n gwybod y bydd yn dod â ninnau yn ôl yn fyw gyda Iesu. A byddwn ni – a chithau hefyd – yn cael mynd bod gydag e! 15 Yn wir, dyn ni’n gwneud popeth er eich mwyn chi. Wrth i rodd Duw o fywyd fynd ar led, yn cofleidio mwy a mwy o bobl, bydd mwy a mwy o bobl yn diolch i Dduw ac yn ei addoli.
16 Dyna pam dyn ni ddim yn digalonni. Hyd yn oed os ydyn ni’n darfod yn gorfforol, dyn ni’n cael ein cryfhau'n ysbrydol bob dydd. 17 Dydy'n trafferthion presennol ni’n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para’n hir. Ond maen nhw’n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw – ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur! 18 Felly mae’n sylw ni wedi ei hoelio ar beth sy’n anweledig, dim ar beth welwn ni’n digwydd o’n cwmpas ni. Dydy beth sydd i’w weld ddim ond yn para dros dro, ond mae beth sy’n anweledig yn aros am byth!