beibl.net

  • Beth wyt ti eisiau wneud?

  • Darllen ac Astudio
  • Adnoddau
  • Defnyddiau
  • Cymorth
  • Gwybodaeth
  • Ebost

Effesiaid

Chwilio manwl

Llyfrau Beibl.net

Chwilio manwl

Cymorth astudio



Astudio: Pwy? Pryd? Pam?

Pwy ydy’r awdur?
Mae dechrau’r llythyr yn dweud mai Paul ysgrifennodd y llythyr, ond ers diwedd y 18fed ganrif mae llawer o ysgolheigion yn credu mai rhywun arall oedd awdur Effesiaid. Mae nifer o resymau dros awgrymu mai rhywun arall oedd yr awdur – e.e. geirfa, arddull, cynnwys, safbwynt. Ar y llaw arall, mae rhai ysgolheigion yn dal i gredu’n gryf mai’r apostol Paul ysgrifennodd y llythyr hwn hefyd. Mae mwy o hanes Paul yn y “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae rhai arbenigwyr yn awgrymu bod y llythyr wedi ei ysgrifennu tua 60 - 61 O.C. pan oedd Paul yn y carchar yn Rhufain. Ysgrifennodd lythyr at y Philipiaid, y Colosiaid ac at ddyn o’r enw Philemon tua’r un pryd. Cafodd Paul ei arestio am godi twrw yn Jerwsalem (Actau 21). Wedyn cafodd ei gadw yn y carchar yn Cesarea am 2 flynedd. Yna dewisodd Paul apelio at yr Uchel Lys Rhufeinig a mynd â’i achos o flaen Cesar yn Rhufain. Gan ei fod o’n ddinesydd Rhufeinig roedd ganddo’r hawl i wneud hyn. Ar ôl taith gynhyrfus (Actau 27) daeth i Rufain. Cafodd ei gadw dan arestiad tŷ am ddwy flynedd arall, ac roedd yn cael cyfle i ddysgu pawb oedd yn dod ato fo am Iesu. Dyn ni ddim yn cael gwybod beth ddigwyddodd i Paul ar ddiwedd llyfr yr Actau. Mae ysgolheigion yn meddwl ei fod o wedi cael ei ryddhau am ychydig, ac yna wedi ei ailarestio pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Nero erlid Cristnogion yn greulon. Mae traddodiad yn dweud bod Paul wedi cael ei ladd gan Nero yn Rhufain tua 67 O.C.

Pam?
Aeth Paul i fyw i Effesus am dair blynedd (Actau 20:31) a sefydlu eglwys yno. Roedd yn ddinas bwysig yn Asia Leiaf (Twrci heddiw), ac yn ganolfan fasnachu hawdd teithio iddi.
Ond mae’r llythyr at yr Effesiaid yn wahanol i lythyrau eraill Paul. Yn un peth, does dim cyfarchion personol yn y llythyr. Dydy'r geiriau "yn Effesus" ddim yn rhai o'r llawysgrifau cynharaf. Mae’r llythyr yn amhersonol, ac mae wedi cael ei ysgrifennu mewn ffordd fwy cymhleth na llythyrau arferol Paul, hefo brawddegau hirach. Mae rhai yn credu mai cylchlythyr sydd yma, sef llythyr oedd yn cael ei basio mlaen o eglwys i eglwys yn ardal Effesus. Mae’n cyfeirio at sefyllfa arbennig oedd wedi codi wrth i’r eglwys lwyddo wrth genhadu. Yn y cyfnod hwn roedd llawer iawn o bobl o genhedloedd eraill yn llifo i’r eglwysi. Roedden nhw’n tueddu i edrych i lawr ar y Cristnogion Iddewig, ac yn teimlo’n falch bod dim rhaid iddyn nhw ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig. Roedd angen atgoffa’r bobl yma fod gwreiddiau y ffydd Gristnogol yn y ffydd Iddewig - a dyna mae Paul yn ei wneud yn y llythyr. Mae o’n pwysleisio mai cynllun Duw ydy bod pobl o bob cefndir a chenedl yn un yn y Meseia. Gan fod aberth Iesu Grist yn uno pawb yn y ffydd, rhaid i Gristnogion ddangos yr undod yma yn eu bywyd bob dydd ac yn eu perthynas hefo pobl eraill. Mae’r un syniadau i’w gweld mewn llythyr cynharach gan Paul at y Colosiaid, ond mae o’n datblygu’r thema yn y llythyr hwn.

Catrin Roberts

Pennod 2

Yn fyw drwy berthyn i’r Meseia

1 Ar un adeg roeddech chi'n farw’n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. 2 Roeddech chi’n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi’n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy’n anufudd i Dduw. 3 Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni’n byw i blesio’r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, a roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. 4 Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi’n caru ni gymaint! 5 Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda’r Meseia – ie, ni oedd yn farw’n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy’r unig reswm pam dyn ni wedi’n hachub! 6 Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda’r Meseia Iesu a'n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dyn ni wedi’n huno gydag e! 7 Felly bydd haelioni Duw i’w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i’r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. 8 Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu’r peth. Anrheg Duw ydy e! 9 Dych chi'n gallu gwneud dim i’w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio. 10 Duw sydd wedi’n gwneud ni beth ydyn ni. Mae e wedi ein creu mewn perthynas â’r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae wedi eu trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.

Un yn ein perthynas â’r Meseia

11 Mae’n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‘ar y tu allan’. 'Y dienwaediad' oeddech chi’n cael eich galw gan 'bobl yr enwaediad' – sef yr Iddewon sy’n cadw’r ddefod o dorri’r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw’n perthyn i Dduw. 12 Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a'r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi’n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw. 13 Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda’r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes.
14,15 Ac ydy, mae Iesu’n gwneud y berthynas rhyngon ni a’n gilydd yn iawn hefyd – ni’r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi’n huno ni gyda’n gilydd. Mae’r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â’n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl. 16 Mae'r ddau yn dod yn un corff sy'n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â'r casineb rhyngon ni i ben. 17 Daeth i gyhoeddi’r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‘bell oddi wrtho’, a heddwch i ni'r Iddewon oedd yn ‘agos’. 18 Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae'r ddau grŵp gyda’i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy'r un Ysbryd Glân.
19 Felly dych chi o’r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nag yn bobl sydd ‘y tu allan’. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi’n aelodau o’i deulu! 20 Dych chi’n rhan o’r un adeilad! Dyn ni, ei gynrychiolwyr personol, a'r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a’r Meseia Iesu ei hun ydy’r maen clo. 21 Dyn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a’n cysylltu â’n gilydd i wneud teml sydd wedi ei chysegru i’r Arglwydd. 22 A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy’n perthyn iddo, yn rhan o’r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw trwy ei Ysbryd.